| Enw’r adnodd |
Cyfnod Allweddol
|
Manylion |
Art
|
Fy Milltir Sgwâr
|
Cyfnod Sylfaen
CA2
|
Mae’r adnodd hwn yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddylunio a sut i annog plant i ddechrau meddwl am sut ydym ni’n siapio ac yn rheoli ein hamgylchedd. Sut datblygodd ein amgylchedd i edrych fel ag y mae nawr? Sut ydym ni’n ymateb iddo? Beth mae’n ei olygu i ni? Pa nodweddion ohono ydym ni’n eu gwerthfawrogi? Sut olwg fydd ar yr amgylchedd yn y dyfodol? Dyma’r cwestiynau sy’n sylfaen i archwiliadau’r adnodd ‘Fy Milltir Sgwâr’.
Gweld yr adnodd ar Hwb
|
Gweithwyr a gweithdai yn ystod Oes Fictoria
|
CA2
|
Adnodd ar gyfer datblygu gwybodaeth disgyblion am artistiaid o Gymru a datblygu sgiliau meddwl trwy roi cyfleoedd trafod, penderfynu, a gwerthuso cynnyrch..
Mae’r adnodd wedi’i seilio ar thema Oes Fictoria, thema boblogaidd o fewn ysgolion cynradd.
Gweld yr adnodd ar Hwb
|
Portffolios ac Adnoddau
|
CA4
Lefel A
|
Uned ar gyfer athrawon a disgyblion (TGAU a Lefel A) wedi’i rhannu’n ddau brif ran yn cynnwys Portffolios ac Adnoddau. O fewn y categori Portffolios, gellir dod o hyd i bedwar prif bwnc yn cynnig esiamplau o waith disgyblion ar themâu Amgylchedd, Y Corff Dynol, Bywyd Llonydd, a Digwyddiadau.
Mae’r adran adnoddau yn darparu amrywiaeth o dempledi ac esiamplau i annog ymatebion ysgrifenedig o fewn gwers, neu ar gyfer gwaith annibynnol.
Gweld yr adnodd ar Hwb
|
Drama
|
Cartrefi
|
Cyfnod Sylfaen
|
Cyfres o adnoddau rhyngweithiol ar y thema Cartrefi, sy’n delio â’r saith maes dysgu o fewn y Cyfnod Sylfaen.
Gweld yr adnodd ar Hwb
|
Nepal – agwedd thematig
|
CA2
|
Agwedd thematig wrth ddarparu sgiliau’r cwricwlwm newydd gan ddefnyddio thema Nepal.
Mae’r uned yn cynnwys arweiniad cynhwysfawr i athrawon gyda dolenni i’r fframwaith sgiliau, adnoddau rhyngweithiol ac adnoddau i’w hargraffu, fideos, a ffeiliau sain.
Gweld yr adnodd ar Hwb
|
Opera Cenedlaethol Cymru
|
CA3/CA4
|
Cyfres o adnoddau o safon uchel gan Opera Cenedlaethol Cymru i gefnogi dysgu opera o fewn y cwricwlwm cenedlaethol.
Mae pob pecyn yn cynnwys:
Gweithgareddau creadigol i annog eich disgyblion i wrando ar a gwerthuso opera
Cynlluniau gwersi defnyddiol y gellir eu defnyddio i weithio trwy’r opera gyda’ch disgyblion.
Gweld yr adnodd ar Hwb
|
Gweithiau Gosod Drama (CBAC)
|
Lefel A
|
Cyfres o nodiadau i athrawon, taflenni gwaith a nodiadau disgybl i’r rhai sy’n astudio gweithiau gosod Drama CBAC.
Gweld yr adnodd ar Hwb
|
Cerddoriaeth
|
| Darlleniadau, Caneuon a Rhigymau |
Cyfnod Sylfaen
|
Cyfres o ganeuon traddodiadol, rhigymau, a darlleniadau. Mae’r rhain yma i ddatblygu rhifedd, llythrennedd a sgiliau canu. Mae’r mwyafrif o’r caneuon yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer datblygu sgiliau’r dysgwr yn y ddwy iaith.
Gweld yr adnodd ar Hwb
|
| Gwerthuso Cerddoriaeth |
Cyfnod Sylfaen
CA2
|
Dyma gyfres o weithgareddau gwerthuso rhyngweithiol i’w defnyddio yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2. Rhennir y gweithgareddau yn bump rhan, gydag wyth gweithgaredd ym mhob un.
Gweld yr adnodd ar Hwb |
Ein Hardal Ni
|
CA3 |
Mae’r uned hon yn seiliedig ar Gerddoriaeth i Gymru. Mae’r synnau a’r sefyllfaoedd a gyflwynir yn addas i bob ardal yng Nghymru
Cynhwysir gweithgareddau addas ar gyfer: Perfformio, Cyfansoddi, Gwerthuso
Gweld yr adnodd ar Hwb |
Y Llwyfan a’r Sgrîn
|
CA4 |
Cyfres o weithgareddau cyfansoddi a gwerthuso i gefnogi dysgu cerddoriaeth y llwyfan a’r sgrîn (manyleb Cerddoriaeth CBAC).
Gweld yr adnodd ar Hwb
|
Sgorau i gefnogi Cerddoriaeth UG CBAC - nodiadau
|
U/UG
|
Nodiadau a luniwyd ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio cwrs Cerddoriaeth UG CBAC – i gyd-fynd â ffeil a chryno ddisg Sgorau i gefnogi Cerddoriaeth UG CBAC. Paratowyd y nodiadau gan Alun Guy, cyn-athro a phennaeth Adran Gerddoriaeth Ysgol Gyfun Glantaf, awdur nifer o deitlau ym maes Cerddoriaeth a phrif arholwr Cerddoriaeth TGAU gyda CBAC.
Gweld yr adnodd ar Hwb
|