Meysydd Astudio

Area of Study

Mae hwn yn adnodd strwythuredig gwrando a gwerthuso i'ch helpu i baratoi ar gyfer yr arholiad TGAU Cerddoriaeth – Uned 3. Mae'r adnodd yn cyflwyno amrywiaeth o ddarnau cerddorol mewn perthynas â phob Maes astudiaeth gan gynnwys:


Maes Astudiaeth 1: Ffurfiau a Dyfeisiau Cerddorol

Yn y maes astudiaeth hwn, byddwch yn gosod cerddoriaeth mewn cyd-destun hanesyddol eang. Fodd bynnag, nid oes disgwyl i chi ddatblygu gwybodaeth cronoleg fanwl o gerddoriaeth ar wahân i ymwybyddiaeth o brif nodweddion cerddoriaeth Baróc, Clasurol a Rhamantaidd. Mae'r maes astudiaeth yn canolbwyntio ar ddeall ffurfiau adeileddol a dyfeisiau ar draws amrywiaeth o genres ac arddulliau o Draddodiad Clasurol y Gorllewin 1650-1910.


Maes Astudiaeth 2: Cerddoriaeth ar gyfer Ensemble

Yn y maes astudiaeth hwn, byddwch yn datblygu dealltwriaeth o ansawdd a gwead, gan gynnwys grwpio offerynnol a lleisiol fel sy'n briodol i'w cyd-destun. Drwy wrando ar enghreifftiau o gerddoriaeth siambr, theatr gerddorol, jazz a blues a chaneuon/alawon gwerin Cymreig.


Maes Astudiaeth 3: Cerddoriaeth Ffilm

Yn y maes astudiaeth hwn, byddwch yn datblygu dealltwriaeth o gerddoriaeth ffilm gan gynnwys y defnydd o ansawdd, lliw tôn a dynameg i greu effaith. Byddwch yn archwilio cerddoriaeth a gyfansoddwyd gan gyfansoddwyr o Gymru a/neu gerddoriaeth a gyfansoddwyd ar gyfer ffilmiau Cymreig.


Maes Astudiaeth 4: Cerddoriaeth Boblogaidd

Yn y maes astudiaeth hwn, byddwch yn datblygu dealltwriaeth o gerddoriaeth boblogaidd: pop, roc a chyfuniad (o arddulliau gwahanol). Byddwch hefyd yn archwilio cerddoriaeth bandiau o Gymru a pherfformwyr unigol yn y maes astudiaeth hwn.


Mae'r adnodd yn cynnwys adran Terminoleg a thasgau gwerthuso debyg i'r rhai a osodir yn yr arholiad. Mae yma dasgau ar gyfer y cwestiynau darnau a baratowyd a’r darnau heb ei baratoi.

Gellir cwblhau’r gweithgareddau yn ddigidol ar y cyfrifiadur neu drwy argraffu cwestiynau penodol.

This is a structured listening and appraising resource to help learners prepare for the WJEC GCSE Music exam paper – Unit 3. The resource presents a range of musical extracts in relation to each Area of study including:


Area of Study 1: Musical Forms and Devices

In this area of study, you will place music within a broad historical context. However, it is not expected that you develop a detailed chronology of music aside from an awareness of the principal features of Baroque, Classical and Romantic music. The area of study focuses on understanding structural forms and devices across a variety of genres and styles from the Western Classical Tradition 1650-1910.


Area of Study 2: Music for Ensemble

In this area of study, you will develop understanding of timbre and texture, including instrumental and vocal groupings as appropriate to their context. Through listening to examples from chamber music, musical theatre, jazz and blues and Welsh folk songs/melodies.


Area of Study 3: Film Music

In this area of study, you will develop an understanding of film music including the use of timbre, tone colour and dynamics for effect. You will also explore music composed by Welsh composers and/or music composed for Welsh films.


Area of Study 4: Popular Music

In this area of study, you will develop an understanding of popular music: rock and fusion (of different styles). You will also explore the music of Welsh bands and solo performers in this area of study.


The resource includes a vocabulary section and appraising tasks similar to those set in the exam. The tasks are for the prepared and unprepared extracts.

You can complete the activities digitally on the computer or by printing specific questions.