GISDA |
Yma mae Gethin Evans (Pennaeth Gwasanaeth GISDA - cwmni o'r sector gwirfoddol sy'n darparu cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc) yn rhoi amlinelliad o GISDA, a'r gwasanaeth maent yn ei gynnig i bobl ifanc difreintiedig. Mae'n manylu ar wasanaethau amrywiol y cwmni er mwyn bod o gymorth i bobl ifanc fyw yn annibynnol a'u paratoi ar gyfer gwaith. |
LLAETH Y LLAN |
Mae Falmai Roberts (Cyfarwyddwr Llaeth y Llan) yn amlinellu cefndir a datblygiad y busnes dros y 30 mlynedd diwethaf. Mae'n adrodd hanes y cwmni, pa rinweddau allweddol sydd eu hangen i redeg busnes llwyddiannus sydd erbyn heddiw yn cynhyrchu dros 10,000 o botiau iogwrt y diwrnod. |
CEM BERWYN |
Mae'r Berwyn yn un o'r carchardai mwyaf yn Ewrop ac yma mae Joanna Marsden(Pennaeth Lleihau Aildroseddu CEM Berwyn) yn amlinellu cefndir y datblygiad yma o fewn y sector gyhoeddus. Mae'n disgrifio strwythur y sefydliad, dulliau ariannu, eu rôl a'r sialensiau o redeg carchar o ddydd i ddydd. |
Perchnogaeth Busnes
Fideo
Gweithgareddau
Nodiadau
Athrawon