Chinois
Defnydd
Hidlo cwstard, piwrî, cawl a sawsiau.
Deunydd
Gwnaed o ddur gwrth-staen ac mae’n hidlen gonigol gyda rhwyll mân.
Glanhau
Golchwch y chinois yn drwyadl ar ôl ei ddefnyddio gan wneud yn siŵr bod pob rhan yn hollol lân cyn ei sychu, er mwyn osgoi croes halogi biolegol a ffisegol. Peidiwch â defnyddio chinois wedi torri gan y gallai hyn beri halogi ffisegol gyda thameidiau o fetel miniog yn y bwyd.
Storio
Cadwch mewn rhan sych o’r gegin.