UNED 1 / Colandrau

Colandrau


Defnydd

Hidlo eitemau ar ôl berwi bwyd fel: pasta, llysiau a reis.


Deunydd

Gwnaed o ddur gwrth-staen gyda thyllau mawr iawn. Ar gael mewn meintiau bach, canolig a mawr.


Glanhau

Golchwch y colandr yn drwyadl ar ôl ei ddefnyddio gan wneud yn siŵr bod pob rhan yn hollol lân cyn ei sychu, er mwyn osgoi croes halogi biolegol a ffisegol.


Storio

Cadwch mewn rhan sych o’r gegin.