Rhidyllau
Defnydd
Rhidyllu blawd i ychwanegu aer at deisenni (cakes) neu siwgr eisin i dynnu unrhyw dalpiau er mwyn sicrhau eisin menyn da. Mae modd defnyddio rhidyllau hefyd i ysgeintio siwgr eisin i addurno ar ben teisen.
Deunydd
Dur gwrth-staen a rhwyll fân. Ar gael mewn gwahanol feintiau.
Glanhau
Golchwch y rhidyll yn drwyadl ar ôl ei ddefnyddio gan wneud yn siŵr bod pob rhan yn hollol lân cyn ei sychu, er mwyn osgoi croes halogi biolegol a ffisegol. Peidiwch â defnyddio rhidyll wedi torri oherwydd y gall tameidiau o fetel lygru’r bwyd.
Storio
Cadwch mewn rhan sych o’r gegin.