UNED 2 / Padell Ffrio Anlynol

Padell Ffrio Anlynol


Defnydd

Coginio bwyd fel eitemau brecwast: wyau, cig moch a selsig.


Deunydd

Fe all padelli anlynol (non-stick) fod o alwminiwm anodeiddiedig (anodized aluminium), crochenwaith, silicôn, enamel a haearn bwrw. PTFE yw’r haen ar badelli anlynol yn aml.


Glanhau

1. Sychwch unrhyw olew a bwyd sydd ar ôl.
2. Golchwch mewn dŵr cynnes a sebonllyd.
3. Sychwch i lanhau – peidiwch â sgwrio.
4. Sychwch gyda chadach meddal.

Peidiwch â defnyddio unrhyw offer miniog i goginio na glanhau’r badell ffrio rhag gwneud niwed i’r haen anlynol.


Storio

Cadwch mewn rhan sych o’r gegin.