Padell Omled
Defnydd
Gwneud omled.
Deunydd
Fe all padelli omled anlynol (non-stick) fod o alwminiwm anodeiddiedig (anodized aluminium)neu haearn bwrw. PTFE yw’r haen ar badelli omled anlynol yn aml.
Glanhau
1. Sychwch unrhyw olew a bwyd sydd ar ôl.
2. Golchwch mewn dŵr cynnes a sebonllyd.
3. Sychwch i lanhau – peidiwch â sgwrio.
4. Sychwch gyda chadach meddal.
Storio
Cadwch mewn rhan sych o’r gegin.