Sosbenni
Defnydd
Mae yna nifer o ddefnydd i sosbenni mewn cegin. Berwi, potsio (poach) a stemio bwyd fel llysiau, ham ac wyau.
Deunydd
Dur gwrthstaen rhan amlaf neu haearn bwrw mewn cegin fawr. Ar gael mewn gwahanol feintiau.
Glanhau
1. Tynnwch holl fwyd sydd dros ben.
2. Mwydo (soak) mewn dŵr cynnes a glanedydd (detergent) os yw’n fudr iawn.
3. Golchwch mewn dŵr poeth a glanedydd.
4. Sychwch gyda chadach meddal gan wneud yn siŵr bod pob rhan yn hollol lân cyn ei sychu er mwyn osgoi croes halogi biolegol a ffisegol.
Storio
Cadwch mewn rhan sych o’r gegin.