Wociau
Defnydd
I goginio bwyd Dwyreiniol yn cynnwys cig, llysiau e.e. stribedi o foron, pupur neu nionod. Dull cyflym o goginio bwyd Dwyreiniol.
Deunydd
Gwnaed gydag arwyneb gwrth-staen neu anlynol (non-stick). Mae’r metal yn denau i goginio yn gyflym gyda gwaelod aloi.
Glanhau
1. Sychwch unrhyw olew a bwyd sydd ar ôl.
2. Trochwch mewn dŵr cynnes a sebonllyd.
3. Sychwch i lanhau – peidiwch â sgwrio.
4. Sychwch gyda chadach meddal.
Peidiwch â defnyddio unrhyw offer miniog i goginio na glanhau’r woc rhag gwneud niwed i’r haen anlynol neu arwyneb y woc.
Storio
Cadwch mewn rhan sych o’r gegin.