Digreiddwyr
Defnydd
Teclyn yw digreiddiwr (corer) i dynnu'r craidd a hadau o afal, cwins (quince) neu ellygen (pear), ar gyfer gwneud tarten afal neu ellyg.
Deunydd
Carn o neilon neu bren a rhan uchaf o ddur gwrth-staen.
Glanhau
1. Golchwch mewn dŵr cynnes gyda glanedydd (detergent).
2. Sychwch gyda chlwt meddal sych.
Storio
Cadwch mewn rhan sych o'r gegin fel drôr.
Clip Fideo
https://www.youtube.com/watch?v=SKSZLI3uYjI (0.50-0.58)