Plicwyr
Offer
Mae gwahanol fathau o blicwyr.
Defnydd
Teclyn cegin yw pliciwr gyda charn a llafn fetel i dynnu croen allanol rhai gwreiddlysiau fel tatws, moron, pannas (parsnips) neu ffrwythau fel afalau neu ellyg (pears) . Gofalwch wrth ddefnyddio pliciwr, oherwydd bod y llafn yn finiog.
Deunydd
Teclyn gyda llafn o ddur gwrthstaen, a charn o ddur gwrth-staen neu blastig. Mae cynllun pliciwr yn atal y llafn rhag torri gormod o'r llysieuyn.
Glanhau
1. Golchwch mewn dŵr cynnes gyda glanedydd (detergent).
2. Gofalwch beidio â chyffwrdd y llafn er mwyn osgoi toriadau.
3. Sychwch gyda chlwt meddal.
Storio
Cadwch mewn rhan sych o'r gegin.