Siswrn Cegin
Offer
Maent yn dod mewn gwahanol fathau. Siswrn ar gyfer pysgod, dofednod (poultry) neu defnydd gyffredinol.
Defnydd
Dyluniwyd yn arbennig i'w defnyddio yn y gegin. Mae gwahanol fathau: i dorri dofednod, pysgod ac eitemau eraill fel perlysiau. Dylid gofalu wrth ddefnyddio siswrn oherwydd y llafnau (blades) miniog.
Deunydd
Carnau rwber neu blastig gyda llafnau alwminiwm neu ddur gwrth-staen.
Glanhau
1. Golchwch mewn dŵr cynnes gyda glanedydd (detergent) gan osgoi cyffwrdd y llafnau gyda'ch dwylo. Cymrwch ofal gyda'r llafnau.
2. Sychwch gyda chadach.
3. Gadewch i sychu yn yr aer cyn ei gadw i osgoi halogiad biolegol.
Storio
Cadwch mewn rhan sych o'r gegin.
Clip Fideo
https://www.youtube.com/watch?v=om35LkkwS2w (2.24 – 3.05)