UNED 4 / Cylch Fflan

Cylch Fflan


Defnydd

Mae modd defnyddio cylchau fflan ar gyfer seigiau melys a sawrus (savoury); fflan ffrwythau, fflan gwstard, quiche neu fflan lysiau sawrus.


Deunydd

Caiff cylchau fflan eu gwneud o ddur neu ddur gwrth-staen i ffurfio cylch tua 2.5cm o uchder gydag ymylon wedi'u rholio. Maent yn dod fel cylch ond mae gwahanol siapiau a meintiau ar gael.


Glanhau

1. Tynnwch yr holl fwyd sydd dros ben.
2. Mwydo (soak) mewn dŵr cynnes a glanedydd (detergent) os yw'n fudr iawn.
3. Golchwch mewn dŵr poeth a glanedydd.
4. Sychwch gyda chadach meddal gan wneud yn siŵr bod pob rhan yn hollol lân cyn ei sychu er mwyn osgoi croes halogi biolegol a ffisegol.


Storio

Cadwch mewn rhan sych o'r gegin.


Clip Fideo

https://www.youtube.com/watch?v=FVUURlpCbmk