Hambyrddau Pobi
Offer
Mae hambyrddau pobi ar gael mewn gwahanol feintiau.
Defnydd
Gwneud eitemau melys fel cyffug (fudge), bisgedi, rholiau jam, meringues, rholiau bara ac eitemau toes.
Deunydd
Caiff hambyrddau eu gwneud o alwminiwm wedi'i stampio i ffurfio'r siâp gofynnol. Oherwydd bod y metel yn feddal fe all fod yn gymysg â magnesiwm, copr neu efydd i gryfhau'r metel ac fe all fod â gorchudd o haen anlynol (non-stick).
Glanhau
1. Sychwch unrhyw fwyd sydd ar ôl.
2. Golchwch mewn dŵr cynnes a sebonllyd. Os yw'n fudr iawn mwydo (soak) am awr.
3. Sgwriwch yn unig gyda sbwng meddal.
4. Sychwch gyda chadach meddal.
Storio
Cadwch mewn rhan sych o'r gegin.
Clip Fideo