Silff Pobi
Offer
Hambwrdd metel petryal gwastad yw hwn i'w ddefnyddio yn y popty. Fe all rhai fod ag ymyl uwch ar un neu ddwy ochr rhag bod bwyd yn llithro oddi arno.
Defnydd
Pobi cwcis, rholiau bara, pitsa neu fisgedi.
Deunydd
Fe all fod o amrywiaeth o ddeunyddiau ond yn bennaf o alwminiwm neu ddur gwrth-staen.
Glanhau
1. Tynnwch unrhyw fwyd oddi ar y silff bobi.
2. Golchwch mewn dŵr cynnes a sebonllyd.
3. Sychwch i lanhau – peidiwch â sgwrio.
4. Sychwch gyda chadach meddal.
Peidiwch â defnyddio unrhyw offer miniog i goginio na glanhau'r silff bobi rhag gwneud niwed i'r haen anlynol (non-stick).
Storio
Cadwch mewn rhan sych o'r gegin.