Tun Rhostio
Defnydd
Rhostio darnau o gig fel cig eidion, cig mochyn, cyw iâr a chig oen yn y popty. Mae modd eu defnyddio hefyd i rostio llysiau yn y popty.
Deunydd
Mae modd gwneud tuniau rhostio o ddur gwrth-staen, haearn bwrw neu fetel wedi ei orchuddio ac enamel. Gallant hefyd gynnwys haen anlynol (non-stick).
Fe all rhai tuniau rhostio fod â nodwedd ychwanegol sy'n cynnwys rhesel (rack) i ganiatáu i'r braster ddraenio wrth rostio cig yn y popty.
Glanhau
1. Tynnwch yr holl fwyd ac olew sydd dros ben.
2. Mwydo (soak) mewn dŵr cynnes a glanedydd (detergent) os yw'n fudr iawn.
3. Golchwch mewn dŵr poeth a glanedydd.
4. Os yw'n fudr iawn, rhaid mwydo am awr.
5. Sychwch gyda chadach meddal gan wneud yn siŵr bod pob rhan yn hollol lân cyn ei sychu er mwyn osgoi croes halogi biolegol a ffisegol.
Storio
Cadwch mewn rhan sych o'r gegin.