Tuniau Pobi
Deunydd
Caiff tuniau eu gwneud o alwminiwm wedi'i stampio i ffurfio'r siâp gofynnol. Oherwydd bod y metel yn feddal fe all fod yn gymysg â magnesiwm, copr neu efydd i gryfhau'r metel ac fe all fod â gorchudd o haen anlynol (non-stick).
Glanhau
1. Sychwch unrhyw olew a bwyd sydd ar ôl.
2. Golchwch mewn dŵr cynnes a sebonllyd.
3. Sychwch i lanhau – peidiwch â sgwrio.
4. Sychwch gyda chadach meddal.
Storio
Cadwch mewn rhan sych o'r gegin.
Clip Fideo