UNED 5 / Brwsh Crwst

Brwsh Crwst


Defnydd

Caiff ei ddefnyddio i daenu sglein ar gacennau neu deisenni melys neu wy neu olch llaeth ar does cyn ei bobi i wella'r lliw.


Deunydd

Mae brwshys crwst i'w cael mewn gwahanol feintiau. Cânt eu gwneud o flew naturiol neu ffibrau plastig. Caiff brwshys crwst modern eu gwneud o flew silicon.


Glanhau

1. Golchwch yn drwyadl mewn dŵr sebonllyd.
2. Sychwch gyda chadach.
3. Sychu mewn aer.
4. Cadwch pan fydd yn hollol sych i osgoi halogiad biolegol.


Storio

Cadwch mewn rhan sych o'r gegin e.e. mewn dror