Powlenni
Defnydd
Caiff powlenni crwn o wahanol feintiau eu defnyddio i gyfuno elfennau wrth wneud toes, sgons, saladau neu deisen felen.
Caiff powlenni bach eu defnyddio ar gyfer pethau bach fel curo wyau, rhai canolig i gymysgu elfennau sych a rhai mawr i gymysgu llawer o wyau, cymysgu salad neu chwisgo (whisk) hufen.
Deunydd
O ddur gwrth-staen neu blastic. I'w cael mewn dewis o feintiau mewn cegin fasnachol.
Glanhau
1. Tynnwch yr holl fwyd sydd dros ben.
2. Mwydo (soak) mewn dŵr cynnes a glanedydd (detergent)os yw'n fudr iawn.
3. Golchwch mewn dŵr poeth a glanedydd.
4. Sychwch gyda chadach meddal gan wneud yn siŵr bod pob rhan yn hollol lân cyn ei sychu er mwyn osgoi croes halogi biolegol a ffisegol.
Storio
Cadwch mewn rhan sych o'r gegin.