Rhesel Oeri
Offer
Ar gael mewn gwahanol feintiau.
Defnydd
Caiff rhesel oeri ei defnyddio i ryddhau'r stêm (steam) ar ôl tynnu eitemau o'r popty wrth bobi bara, teisenni a chwcis gan atal y nwyddau pôb rhag mynd yn feddal neu doeslyd. Mae'n caniatáu i aer gylchredeg a chyrraedd pob ochr o'r eitem. Caiff ei defnyddio i oeri bara, teisenni, sgons a chwcis.
Deunydd
O wifrau dur gwrth-staen wedi'u ffurfi'n agos at ei gilydd fel bod modd oeri teisenni a chacennau'n rhwydd heb iddynt ddisgyn trwodd.
Glanhau
1. Sychwch unrhyw fwyd sydd ar ôl.
2. Mwydo (soak) mewn dŵr cynnes a sebonllyd.
3. Sychwch i lanhau – peidiwch â sgwrio.
4. Sychwch gyda chadach meddal.
Storio
Cadwch mewn rhan sych o'r gegin.
Clip Fideo