Rholbren
Defnydd
Rholbren yw teclyn cegin silindrog er mwyn rolio crwst i wneud mins peis ('mince pies'), tartenni ffrwythau a phasta fel ravioli neu sail pitsa ac yn y blaen.
Deunydd
Yn draddodiadol gwnaed rholbrennau o bren caled. Y dyddiau yma mae'r rhan fwyaf o rolbrennau mewn cegin fasnachol o blastig, sy'n arwyneb anlynol (non-stick).
Glanhau
1. Golchwch ar ôl ei defnyddio.
2. Sychwch gyda chadach meddal.
3. Gadewch iddi sychu yn yr aer.
Storio
Cadwch mewn rhan sych o'r gegin.
Clip Fideo