Torrwr Toes
Defnydd
Caiff ei ddefnyddio i dorri toes crwst yn wahanol siapiau a meintiau, wrth wneud sgons, mins peis ('mince pies'). Mae modd defnyddio torwyr bach i wneud addurniadau crwst h.y. wrth wneud pastai.
Deunydd
O ddur gwrth-staen, alwminiwm neu blastig.
Glanhau
1. Golchwch ar ôl defnydd gyda sebon a dŵr cynnes.
2. Sychwch gyda chadach.
3. Gadewch iddo sychu yn yr aer.
4. Sicrhewch fod y torwyr toes yn gyfan gwbl sych cyn eu cadw.
Storio
Cadwch mewn rhan sych o'r gegin.