Ysgeintiwr Blawd (Flour Sifter)
Defnydd
Caiff ei ddefnyddio i wasgaru blawd ar arwyneb wrth rolio toes crwst. Mae modd ei ddefnyddio hefyd i wasgaru siwgr eisin ar ben teisenni a nwyddau crwst fel mins peis ('mince pies').
Deunydd
Caiff y rhan fwyaf o ysgeintwyr blawd eu gwneud o alwminiwm ond maent i'w cael hefyd o blastig tryloyw caled gyda chaead dur gwrth-staen.
Glanhau
1. Sychwch yn lân ar ôl pob defnydd.
Storio
Cadwch mewn rhan lân o'r gegin ar gyfer cadw bwyd.