UNED 6 / Basged Ffrio

Basged Ffrio


Offer

Daw mewn gwahanol feintiau.


Defnydd

Caiff basged ffrio ei defnyddio wrth ffrio bwyd mewn olew dwfn. Mae'n declyn cegin sy'n cael ei ddefnyddio i ffrio'n ddwfn unrhyw lysiau, pysgod a seigiau cig.
Eitemau'n cynnwys: pysgod mewn cytew (batter) neu friwsion, sglodion tatws, wyau, selsig a nygets cyw iâr.


Deunydd

Crwn neu betryal gydag arwyneb rhwyllog o ddur gwrth-staen.


Glanhau

1. Tynnwch holl ronynnau bwyd a golchwch yn drwyadl mewn dŵr sebonllyd.
2. Sychwch gyda chadach.
3. Sychu mewn aer.
4. Cadwch pan fydd yn hollol sych i osgoi halogiad biolegol.


Storio

Cadwch mewn rhan sych o'r gegin.


Clip Fideo

https://www.youtube.com/watch?v=izvrosOMKGo (0.12- 1.12min)