Crochanau Pysgod (Fish Kettle)
Defnydd
Caiff ei ddefnyddio i goginio pysgodyn cyfan fel eog, cegddu a phenhwyad mewn court-bouillon (stoc pysgod o win gwyn, perlysiau a llysiau i botsio pysgodyn).
Deunydd
O ddur gwrth-staen, mae crochan pysgodyn yn grochan mawr hirgrwn sy’n cael ei ddefnyddio i goginio pysgodyn cyfan. Mae gan grochan pysgodyn dolenni ar bob pen a chaead tynn. Mae’r rhwyll symudol ar y gwaelod yn galluogi tynnu’r pysgodyn heb ei dorri.
Glanhau
1. Golchwch ar ôl ei defnyddio mewn dŵr cynnes a sebon.
2. Sychwch gyda chadach.
3. Gadewch i sychu yn yr aer.
4. Sicrhewch ei fod yn hollol sych cyn ei gadw.
Storio
Cadwch mewn rhan sych o'r gegin.