UNED 6 / Dysglau Caserol

Dysglau Caserol


Offer

Daw dysglau caserol mewn gwahanol siapiau a meintiau, yn dibynnu ar nifer y dognau (portions) sydd eu hangen.


Defnydd

Caiff ei ddefnyddio i goginio stiwiau, a seigiau mudferwi (simmer). Enghreifftiau: caserol cig eidion, porc neu gig oen. Seigiau traddodiadol fel: Boeuf Bourguignon neu Nafarin cig oen.


Deunydd

Pot llydan gydag ochrau syth, dolenni6 a chaead tynn yw dysgl gaserol. Gwneir o wydr, crochenwaith neu haearn bwrw.
Haearn bwrw yw'r dewis gorau ar gyfer coginio araf.


Glanhau

1. Tynnwch holl fwyd dros ben.
2. Mwydo (soak) mewn dŵr cynnes a glanedydd (detergent) os yw'n fudr iawn.
3. Golchwch mewn dŵr poeth a glanedydd.
4. Sychwch gyda chadach meddal yn ofalus gan wneud yn siŵr bod pob rhan yn hollol lân cyn ei sychu er mwyn osgoi croes halogi fiolegol a ffisegol.


Storio

Cadwch mewn rhan sych o'r gegin.