UNED 6 / Lletwadau

Lletwadau (Ladels)


Offer

Mae lletwadau ar gael mewn gwahanol feintiau.


Defnydd

Cânt eu defnyddio i drosglwyddo hylif poeth neu oer wrth goginio. Enghraifft: trosglwyddo stoc boeth i wneud stiw neu gawl. Caiff lletwadau eu defnyddio hefyd i weini cawliau a stiwiau ac fel teclyn i reoli dognau (portions).


Deunydd

Caiff lletwadau eu gwneud o ddur gwrth-staen gyda charn hir.


Glanhau

1. Tynnwch unrhyw olew neu fwyd sydd ar ôl.
2. Golwchwch mewn dŵr cynnes a sebonllyd.
3. Glanhewch gyda sbwng meddal yn unig.
4. Sychwch i lanhau – peidiwch â sgwrio.
5. Sychwch gyda chadach meddal.


Storio

Cadwch mewn rhan sych o'r gegin.