UNED 6 / Mandolinau

Mandolinau


Defnydd

Mandolin yw teclyn cegin ar gyfer sleisio bwyd fel llysiau a ffrwythau.
Gyda'r atodyn cywir mae modd ei ddefnyddio i wneud e.e. sglodion crych (crinkle cut chips). Prif ddefnydd: sleisio tatws, nionod, moron, courgettes neu blanhigion ŵy neu unrhyw saig.

Mae modd ei ddefnyddio hefyd i greu siapiau addurnol mewn ffrwythau a llysiau, neu i sleisio afal fel addurn ar ben pastai. Dylid gofalu wrth ddefnyddio mandolin oherwydd bod y llafn yn finiog iawn. Darllenwch y cyfarwyddiadau bob amser cyn ei ddefnyddio.


Deunydd

O ddur gwrthstaen, maent i’w cael hefyd gyda ffrâm blastig caled a llafn dur gwrth-staen.


Glanhau

1. Tynnwch holl fwyd dros ben.
2. Golchwch mewn dŵr poeth a glanedydd, gan fod yn ofalus gyda'r llafn.
3. Sychwch gyda chadach meddal yn ofalus gan wneud yn siŵr bod pob rhan yn hollol lân cyn ei sychu er mwyn osgoi croes halogi fiolegol a ffisegol.


Storio

Cadwch mewn rhan sych o'r gegin.


Clip Fideo

https://www.youtube.com/watch?v=MCTB_tii31U