UNED 6 / Mowldiau

Mowldiau


Offer

Daw mowldiau mewn llawer o wahanol siapiau a meintiau


Defnydd

Mae modd defnyddio mowldiau i wneud nifer o wahanol seigiau. Defnyddiwyd yn draddodiadol i fowldio bwyd yn cynnwys gelatin fel jelïau, a mousses fel mousse pysgodyn yn gwrs cyntaf.

Caiff mowldiau eu defnyddio i wella golwg saig ac mae nifer o wahanol fowldiau ar gael i wneud: teisenni, hufen iâ, rhew, siocled a mowldiau bach i wneud addurniadau teisen gydag eisin ffondant.


Deunydd

Caiff mowldiau ar gyfer gwneud teisenni ac addurniadau eu gwneud o silicôn. Yn draddodiadol, gwnaed mowldiau jeli o gopr, metel a gwydr.


Glanhau

1. Golchwch ar ôl ei defnyddio.
2. Sychwch gyda chadach meddal.
3. Gadewch iddo sychu yn yr aer.
4. Cadwch mewn rhan sych o'r gegin.


Storio

Cadwch mewn rhan sych o'r gegin.


Clip Fideo

https://www.youtube.com/watch?v=x0TA0wKrm0I