Sbatwlâu
Offer
Mae sbatwlâu ar gael mewn gwahanol feintiau.
Defnydd
Prif ddefnydd sbatwlâu wrth bobi yw crafu ochr bowlen i drosglwyddo cymysgedd teisenni fel teisenni cwpan (cupcakes) a theisen felen i'r tun pobi, ac i drosglwyddo hufen menyn i fag peipio.
Mae hwn yn declyn rhagorol i sicrhau gwastraffu llai o gytew'r (batter) deisen ac i lyfnu cymysgedd y deisen yn y tun teisen cyn ei choginio er mwyn sicrhau dosbarthu'r cymysgedd yn gyfartal.
Mae modd defnyddio'r sbatwla hon hefyd i blygu elfennau fel gwynwy wedi'i guro'n bwyllog i mewn i mousse i gadw'r aer yn y cymysgedd.
Deunydd
Carn pren neu blastig gyda llafn crafu rwber a phen crwn. Mae sbatwlâu silicon i'w cael hefyd.
Glanhau
1. Golchwch mewn dŵr cynnes a sebonllyd.
2. Sychwch i lanhau – peidiwch â sgwrio.
3. Sychwch gyda chadach meddal. Peidiwch â defnyddio unrhyw offer miniog i lanhau'r sbatwla.
Storio
Cadwch mewn rhan sych o'r gegin e.e. mewn drôr