Stwnsiwr (Masher)
Defnydd
Caiff ei ddefnyddio i stwnsio llysiau a ffrwythau ar ôl eu coginio, er enghraifft tatws, moron, rwdins (swede), maip ar ôl eu berwi, neu afalau wrth wneud saws afal.
Deunydd
O ddur gwrth-staen, mae stwnsiwr yn cynnwys carn syth neu ar ongl wedi’i gysylltu â phen stwnsio. Gan amlaf mae’r pen o wifren drwchus ar ffurf igam-ogam, neu blât gyda thyllau neu holltau ynddi.
Glanhau
1. Tynnwch holl fwyd dros ben.
2. Golchwch mewn dŵr poeth a glanedydd.
3. Sychwch gyda chadach meddal gan wneud yn siŵr bod pob rhan yn hollol lân cyn ei sychu er mwyn osgoi croes halogi fiolegol a ffisegol.
Storio
Cadwch mewn rhan sych o'r gegin.