Gwybodaeth gefndir
Gweithgareddau rhyngweithiol
lawrlwytho
Cwis
Nodiadau Athro

Asesu Risg

Gweithgareddau
rhyngweithiol

Pwyntiau rheoli critigol ar gyfer arlwyo.
Cwblhewch y tabl isod.

Adnabod ac ychwanegu 1 gweithred ychwanegol ar gyfer bob cam.

Cam

Perygl

Gweithred

1. Prynu Fe all bwyd risg uchel fel cig amrwd gael ei halogi â bacteria gwenwyn bwyd.
  • Nodi tymereddau uchaf ar gyfer bwyd wrth ei dderbyn.
  • Prynu gan gyflenwr gydag enw da.
2. Derbyn Bwyd Fe all bwyd risg uchel fel cig amrwd gael ei halogi â bacteria gwenwyn bwyd.
  • Gweld sut olwg sydd ar y bwyd.
  • Arogli.
  • Teimlo'n iawn.
  • edrych o fewn y dyddiad 'gwerthu erbyn'
3. Storio Fe all bacteria gwenwyn bwyd dyfu ar fwydydd risg uchel a halogi bwydydd eraill.
  • Cadw bwyd risg uchel ar dymheredd diogel.
  • Labelu bwyd â dyddiad 'gwerthu erbyn' a'i ddefnyddio erbyn y dyddiad hwnnw.
  • Cylchdroi stoc fel bod y bwyd hynaf yn cael ei ddefnyddio gyntaf.
4. Paratoi Bwyd Fe all bwyd risg uchel gael ei halogi â bacteria gwenyn bwyd. Fe all y bacteria dyfu.
  • Peidio â chadw bwyd ar dymheredd ystafell.
  • Defnyddio offer glân.
  • Defnyddio offer gwahanol ar gyfer bwydydd risg uchel a bwydydd eraill.
  • Gawahanu bwydydd amrwd oddi wrth rai sydd wedi'u coginio.
  • Golchi'r dwylo cyn trin bwyd.
5. Coginio Fe all bacteria gwenwyn bwyd oresi yn ystod coginio.
  • Coginio bwyd e.e. cig fel bod y rhan fwyaf trwchus yn cyrraedd 75°C.
6. Oeri Fe all bacteria gwenwyn bwyd sy'n goroesi dyfu. Fe all y bacteria gynhyrchu gwenwyn.
  • Oeri bwyd cyn gynted â phosib.
  • Peidio â gadel i fwyd oeri ar dymheredd ystafell.
7. Cadw'n boeth e.e. ar gownter bwyd hunanweini
  • Cadw bwyd ar 63°C neu uwch.
8. Aildwymo Fe allai bacteria gwenwyn bwyd oroesi wrth aildwymo.
  • Aildwymo bwyd i 75°C neu uwch.
9. Storio (oer) Fe all bacteria gwenwyn yn bwyd dyfu.
  • Cadw tymheredd storio cywir.
  • Labelu'r bwyd risg uchel yn gywir a nodi' dyddiad 'gwerthu erbyn' cywir.
10. Gweini Fe all bacteria gwenwyn bwyd dyfu. Fe all bacteria gynhyrchu gwenwynau.
  • Gweini bwyd oer cyn gynted ag sy'n bosib ar ôl symud o'r oergell rhag iddo gynhesu.
  • Gweini bwyd poeth cyn gynted ag y bo modd.

Dangos/cuddio ateb?