Ychwanegwch 2 gam gyferbyn a'r penawdau isod all helpu i osgoi damweiniau:
Lloriau |
- Cadw arwyneb holl loriau mewn cyflwr da.
- Cadw’r llawr yn lân bob amser.
- Cadw’r llawr yn rhydd o rwystrau.
- Holl aelodau’r staff i wisgo esgidiau gwrthlithro yn y gegin.
- Mopio holl golledion cyn gynted ag y cânt eu gweld.
- Sicrhau bod holl aelodau’r staff yn codi arwydd ‘llawr gwlyb’ os bydd unrhyw golledion.
|
Offer trydanol |
- Defnyddio’r offer priodol ar gyfer y gwaith a dilyn y cyfarwyddiadau defnyddio.
- Dim ond defnyddio offer trydanol ar ôl cael hyfforddiant ac awdurdod i wneud hynny.
- Cadarnhau bod yr offer yn gweithio cyn ei ddefnyddio a hysbysu unrhyw nam i’r rheolwr.
- Peidio â gweithredu unrhyw offer trydanol gyda dwylo gwlyb.
- Peidio â defnyddio unrhyw offer trydanol os ydyw wedi ei ddifrodi mewn unrhyw fodd.
|
Ffriwr saim dwfn |
- Rhoi bwyd yn y ffriwr saim dwfn yn ofalus iawn.
- Newid yr olew’n rheolaidd.
- Glanhau pob rhan o’r ffriwr saim dwfn yn rheolaidd gan dynnu holl ronynnau bwyd.
- Peidio â rhoi unrhyw fwyd gwlyb mewn ffriwr saim dwfn.
- Dim ond llenwi’r olew hyd at y lefel benodedig.
|
Cyllyll
|
- Cadw carnau cyllyll yn lân ac yn rhydd o saim.
- Cadw holl gyllyll yn finiog; mae angen pwyso mwy wrth ddefnyddio cyllell sydd heb fin.
- Cadw holl gyllyll ymhell o ymyl y fainc weithio.
- Golchi holl gyllyll rhwng darnau o waith i osgoi croes halogi.
- Peidio â rhoi unrhyw gyllyll yn y sinc golchi llestri neu ar i fyny mewn peiriant golchi llestri.
- Defnyddio cyllell o’r maint cywir ar gyfer y gwaith.
|
Bwyd |
- Fe all rhewfwyd achosi llosgiadau.
- Gofalu wrth agor potiau a thuniau.
- Fe all esgyrn pysgod a chig achosi toriadau.
- Cadw bwyd amrwd a bwyd sydd wedi’i goginio ar wahân.
- Rhoi gwybodaeth fanwl ac eglur ynghylch elfennau cysylltiedig ag alergeddau bwyd.
|
Tân
|
- Sicrhau gwybod am y rheoliadau tân yn y gweithle.
- Sicrhau bod blanced dân ger y stôf.
- Peidio â delio â thân mwy na phadell ffrio.
- Peidio â rhoi unrhyw gadachau popty ger fflam agored na thros ddrws y popty.
|
Dillad |
- Gorchuddio holl wallt gyda het.
- Gwisgo gwisg lawn pen-cogydd.
- Gwisgo dim ond esgidiau gwrthlithro yn y gegin.
- Peidio â gwisgo unrhyw emwaith.
|
Ymddygiad |
- Dilyn y Trefnau Iechyd a Diogelwch bob amser.
- Peidio â rhedeg yn y gegin.
- Canolbwyntio ar y gwaith dan sylw.
|
Glanhau |
- ‘Glanhau wrth fynd’ bob amser.
- Cadw holl gynhyrchion glanhau / cemegau oddi wrth fwyd.
- Defnyddio’r cynnyrch glanhau ar y cryfder cywir.
- Peidio fyth â rhoi cemegau glanhau mewn gwydr neu gwpan.
- Peidio â chymysgu cemegau glanhau.
- Wrth ddefnyddio cynhyrchion glanhau, dilyn cyfarwyddiadau defnyddio’r cynnyrch.
|
Cadw offer |
- Cadw holl offer cegin yn y man cywir, h.y. cyllyll cegin mewn drôr.
- Diffodd holl offer trydanol ar ôl ei ddefnyddio.
- Sicrhau bod holl offer cegin yn lân cyn ei gadw.
|
Offer trwm fel sosbenni |
- Gosod sosbenni mawr yng nghefn y stôf.
- Gofyn am gymorth i gario darnau mawr o offer fel sosbenni.
- Defnyddio cadachau popty sych a heb ddifrod i symud sosbenni a thuniau o’r stôf.
|