Gwybodaeth gefndir
Gweithgareddau rhyngweithiol
Lawrlwytho
Cwis
Gwybodaeth Ychwanegol

Damweiniau

Gwybodaeth
gefndir

1. Atal Damweiniau

Pan fo damweiniau'n digwydd, mae'n hanfodol bod y rheolwr / perchennog yn gwneud y canlynol:

  • Archwilio'r gweithle a'i weithgareddau i asesu beth allai fynd o'i le.
  • Dewis rheoli diogelwch i atal damweiniau rhag digwydd.
  • Darganfod beth achosodd y ddamwain.
  • Sefydlu mesurau iechyd a diogelwch a'u harchwilio ar hap yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn cael eu gwneud.

Ymhlith ffactorau a allai gyfrannu at ddamweiniau yn y gegin mae:

  • Staff yn gweithio pan fyddant yn sâl neu flinedig.
  • Cadw ardaloedd blêr e.e rhwystro rhodfa neu diffyg glanhau hylifau a gollwyd.
  • Staff heb ddilyn trefnau: h.y. codi arwyddion 'llawr gwlyb' wrth fopio'r llawr.
  • Staff heb gael hyfforddiant priodol i ddefnyddio offer fel cyllyll, peiriannau tafellu bwyd neu brosesyddion bwyd.
  • Staff yn defnyddio clytiau popty llaith i drin tuniau a sosbenni poeth.
  • Dim goruchwyliaeth neu oruchwyliaeth gwael gan reolwyr.
  • Staff yn anwybyddu rheolau Iechyd a Diogelwch.
  • Dim yn gwisgo esgidiau diogelwch priodol.

Atal Damweiniau yn y Gegin

Fe all y gegin a'r ardal paratoi bwyd fod yn lle peryglus. Mae nifer o ffactorau'n cyfrannu at hyn ac mae ffyrdd o atal damweiniau yn y gegin yn cynnwys y canlynol:

Lloriau

  • Mopio holl golledion cyn gynted ag y cânt eu gweld.
  • Cadw arwyneb holl loriau mewn cyflwr da.
  • Cadw'r llawr yn lân bob amser.
  • Cadw'r llawr yn rhydd o rwystrau.
  • Sicrhau bod holl aelodau'r staff yn codi arwydd 'Llawr Gwlyb' os bydd unrhyw golledion.
  • Holl aelodau'r staff i wisgo esgidiau gwrthlithro yn y gegin.

Offer trydanol

  • Peidio â gweithredu unrhyw offer trydanol gyda dwylo gwlyb.
  • Defnyddio'r offer priodol ar gyfer y gwaith a dilyn y cyfarwyddiadau defnyddio.
  • Dim ond defnyddio offer trydanol ar ôl cael hyfforddiant ac awdurdod i wneud hynny.
  • Cadarnhau bod yr offer yn gweithio cyn ei ddefnyddio a hysbysu unrhyw nam i'r rheolwr.
  • Peidio â defnyddio unrhyw offer trydanol os ydyw wedi ei ddifrodi mewn unrhyw fodd.

Ffriwr saim dwfn

  • Peidio â rhoi unrhyw fwyd gwlyb mewn ffriwr saim dwfn.
  • Dim ond llenwi'r olew hyd at y lefel benodedig.
  • Rhoi bwyd yn y ffriwr saim dwfn yn ofalus iawn.
  • Newid yr olew'n rheolaidd.
  • Glanhau pob rhan o'r ffriwr saim dwfn yn rheolaidd gan dynnu holl ronynnau bwyd.

Cyllyll

  • Peidio â rhoi unrhyw gyllyll yn y sinc golchi llestri neu ar i fyny mewn peiriant golchi llestri.
  • Cadw carnau cyllyll yn lân ac yn rhydd o saim.
  • Defnyddio cyllell o'r maint cywir ar gyfer y gwaith.
  • Cadw holl gyllyll yn finiog - mae angen pwyso mwy wrth ddefnyddio cyllell sydd heb fin.
  • Cadw holl gyllyll ymhell o ymyl y fainc weithio.
  • Golchi holl gyllyll rhwng darnau o waith i osgoi croes halogi.

Bwyd

  • Cadw bwyd amrwd a bwyd sydd wedi'i goginio ar wahân.
  • Fe all rhewfwyd achosi llosgiadau.
  • Gofalu wrth agor potiau a thuniau.
  • Rhoi gwybodaeth fanwl ac eglur ynghylch elfennau cysylltiedig ag alergeddau bwyd.
  • Fe all esgyrn pysgod a chig achosi toriadau.

Tân

  • Sicrhau bod pawb yn gwybod am y rheoliadau tân yn y gweithle.
  • Peidio â delio â thân mwy na phadell ffrio.
  • Peidio â rhoi unrhyw glytiau popty ger fflam agored na thros ddrws y popty.
  • Sicrhau bod blanced dân ger y stôf.

Dillad

  • Gwisgo dim ond esgidiau gwrthlithro yn y gegin.
  • Peidio â gwisgo unrhyw emwaith.
  • Gorchuddio holl wallt gyda het.
  • Gwisgo gwisg lawn pen-cogydd.

Ymddygiad

  • Peidio â rhedeg yn y gegin.
  • Dilyn y Trefnau Iechyd a Diogelwch bob amser.
  • Canolbwyntio ar y gwaith dan sylw.

Glanhau

  • 'Glanhau wrth fynd' bob amser.
  • Peidio â chymysgu cemegau glanhau.
  • Cadw holl gynhyrchion glanhau / cemegau oddi wrth fwyd.
  • Wrth ddefnyddio cynhyrchion glanhau, dilyn y cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio'r cynnyrch yn gywir.
  • Defnyddio'r cynnyrch glanhau ar y cryfder cywir.
  • Peidio fyth â rhoi cemegau glanhau mewn gwydr neu gwpan.

Cadw offer

  • Cadw holl offer cegin yn y man cywir, h.y. cyllyll cegin mewn drôr.
  • Diffodd holl offer trydanol ar ôl ei ddefnyddio.
  • Sicrhau bod holl offer cegin yn lân cyn ei gadw.

Offer trwm fel sosbenni

  • Gofyn am gymorth i gario darnau mawr o offer fel sosbenni.
  • Gosod sosbenni mawr yng nghefn y stôf.
  • Defnyddio clytiau popty sych a heb ddifrod i symud sosbenni a thuniau o'r stôf.

2. Trefnau Damweiniau

Mae angen i gyflogwyr gwybod am ddamweiniau gan gynnwys rhai dibwys, er mwyn eu hatal rhag digwydd eto.
Mae nifer o gamau i'w dilyn sy'n berthnasol i'r holl staff.

  1. Hysbysu holl ddamweiniau, dim ots pa mor ddibwys, i'r rheolwr gan ddilyn y drefn yn y sefydliad.
  2. Mae angen i'r rheolwr ymchwilio i achos y ddamwain.
  3. Mae angen i'r rheolwr bennu rheolaeth i atal materion iechyd a diogelwch yn y dyfodol.
  4. Rhaid cadw cofnod o holl ddamweiniau, dim ots pa mor ddibwys, ac unrhyw broblemau'n ymwneud â gwaith.
  5. Rhaid hysbysu damweiniau penodol i'r Awdurdodau Gorfodi, gan gynnwys:
    • Marwolaeth
    • Unrhyw fath o anaf, digwyddiad peryglus neu afiechyd a bennwyd yn ôl y gyfraith
    • Unrhyw anaf sy'n peri absenoldeb o'r gwaith am fwy na 3 diwrnod
    • Aelod o'r cyhoedd yn gorfod mynd i'r ysbyty ar unwaith.
  6. Annog cydweithredu â'r gweithlu.
  7. Sicrhau bod pawb yn dilyn cyfarwyddiadau ac yn defnyddio trefnau diogel.

3. Trefnau Cymorth Cyntaf

Hyd yn oed yn y ceginau mwyaf trefnus, bydd damweiniau'n digwydd. Felly, mae'n bwysig deall cymorth cyntaf sylfaenol.
Mae gan Gymorth Cyntaf dair egwyddor 'A':

  • Arbed bywyd
  • Atal rhag mwy o niwed.
  • Amddiffyn y rhai a anafwyd.

Rhaid bod Cymhorthydd Cyntaf penodedig ar gael pryd bynnag y bo pobl yn gweithio.


Mae cyfrifoldeb yn cynnwys:

  • Gofalu am yr Offer Cymorth Cyntaf.
  • Sicrhau bod y Cymorth Cyntaf ar gael bob amser.
  • Cymryd yr awenau pan fydd rhywun yn cael anaf neu'n sâl.
  • Galw'r gwasanaeth brys os bydd angen.

Rhaid bod Cymhorthwyr Cyntaf wedi cael hyfforddiant a thystysgrif arbennig. Felly, ni ddylai rhywun heb hyfforddiant roi triniaeth feddygol i rywun a anafwyd ond gallant gadw'r unigolyn yn gyffyrddus cyn i'r meddyg gyrraedd.

Darparu Cymorth Cyntaf

Dan Reoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981.

Y ddarpariaeth ofynnol:

  • Rhaid bod Blwch Cymorth Cyntaf yn cynnwys nwyddau addas fod ar gael.
  • Mae angen o leiaf 1 Blwch Cymorth Cyntaf ar gyfer pob 150 o bobl, (gan ddibynnu ar faint y perygl).
  • Mae angen o leiaf 1 Cymhorthydd Cyntaf ar gyfer pob 150 o bobl, (gan ddibynnu ar faint y perygl).
  • Rhaid bod Cymhorthydd Cyntaf ar gael pryd bynnag y bo pobl yn gweithio.
  • Rhaid bod Blychau Cymorth Cyntaf o fewn cyrraedd holl aelodau'r staff.
  • Rhaid bod pob gweithiwr yn gwybod pa drefniant Cymorth Cyntaf sydd ar gael.
  • Rhaid gwirio Blychau Cymorth Cyntaf yn rheolaidd.


Cynnwys Gofynnol Blychau Cymorth Cyntaf

Caiff y canlynol eu hargymell lle nad oes unrhyw beryglon arbennig:

  1. Canllawiau Cymorth Cyntaf
  2. 20 dresin glynol di-haint mewn clawr ac o wahanol feintiau
  3. 2 o badiau llygad di-haint gydag atodion
  4. 6 rhwymyn trionglog mewn cloriau ar wahân
  5. 6 pin cau
  6. 6 o ddresins clwyfau difeddyginiaeth, di-haint mewn cloriau unigol canolig eu maint, 2 fawr a 3 mawr iawn.
  7. 1 pâr o fenig untro

Rhai o'r damweiniau mwyaf cyffredin sydd angen Cymorth Cyntaf yn y gegin yw:

  • Llosgiadau oherwydd ager, dŵr berwedig neu saim poeth. Os yw rhywun yn llosgi gyda dŵr poeth neu wres o'r popty, dylid oeri'r rhan o'r corff mor fuan ag y bo modd a gofyn am sylw meddygol os yw'r llosg yn fwy na darn 10c.
  • Os yw rhywun yn llosgi gyda saim poeth, bydd angen cymorth meddygol ar unwaith. Sylwch: mae dŵr yn berwi ar 100°C ond fe all saim poeth gyrraedd tymheredd o 180°C wrth ffrio'n ddwfn ac, felly, mae'n beryglus iawn.
  • Toriadau: golchi a gorchuddio gyda phlaster lliw glas. Os nad yw'n atal y gwaedu, dal y rhan a anafwyd uwchlaw'r galon a phwyso'n drwm.
  • Bagliadau: bydd bagliadau'n digwydd yn aml oherwydd lloriau gwlyb neu seimllyd. Os bydd rhywun wedi ei anafu ac yn gorwedd ar y llawr, ni ddylid helpu iddynt godi ond gadael iddynt godi dan eu pwysau eu hunain a galw am y Cymhorthydd Cyntaf.

Cwis

Gwybodaeth
Ychwanegol