Gwenwyn Bwyd / Salwch trwy fwyd
Llenwch y bylchau.
Gwenwyn bwyd |
Ffynhonnell gyffredin |
Cysylltiedig â bwyd |
Symptomau |
Amser cyn dechrau (ar gyfartaledd) |
---|---|---|---|---|
Salmonela |
Perfeddion pobl ac anifeiliaid, plâu a charthion
|
Dofednod amrwd a heb eu coginio, wyau, llaeth a chig amrwd
|
Poenau yn y bol Dolur rhydd Chwydu a thwymyn |
12-36 awr |
Clostridiwm perfringens | Carthion anifeiliaid a phobl, pridd, llwch, trychfilod a chig amrwd |
Cig a dofednod wedi'u coginio
|
Poenau yn y bol a dolur rhydd
|
12-18 awr |
Staffylococws aureus | Corff dynol h.y. croen, trwyn, ceg a thoriadau a chasgliadau septig. Llaeth amrwd |
Cigoedd oer, llaeth amrwd a chynnyrch llaeth neu unrhyw beth a gyffyrddwyd gan ddwylo
|
Poenau yn y bol a chrampiau, chwydu, tymheredd isel |
1-6 awr
|
Basilws cereus | Grawnfwydydd, pridd a llwch |
Grawnfwydydd yn enwedig reis eildwym
|
Poenau yn y bol, dolur rhydd a chwydu |
1-5 awr neu 8-16 awr
|
Salwch trwy fwyd |
||||
Campylobactor |
Anifeiliaid, carthion a dŵr heb ei drin
|
Dofednod amrwd, cig a llaeth a dŵr heb ei drin
|
Poenau yn y bol, dolur rhydd a chwydu | 12-36 awr |
Escherichia coli 0157 (E.coli) | Perfeddion pobl ac anifeiliaid, carthion, dŵr a chig amrwd |
Cig eidion (yn enwedig mâl) llaeth amrwd a dŵr heb ei drin
|
Poenau yn y bol, twymyn, dolur rhydd, chwydu, niwed a methiant yr arennau
|
12-24 awr neu hwy |
Listeria | Pridd, dŵr, carthion, pobl |
Caws meddal, caws o laeth heb ei basteureiddio, llysiau salad a phate
|
Symptomau fel y ffliw |
1-70 diwrnod
|
Dangos/cuddio'r ateb