Gwybodaeth gefndir
Gweithgareddau rhyngweithiol
lawrlwytho
Cwis
Gwybodaeth Ychwanegol

Halogi bwyd a
gwenwyn bwyd

Gwybodaeth
gefndir

1. Achosion cyffredin halogiad bwyd a gwenwyn bwyd

Mae 3 math o beryglon i fwyd.

  • Ffisegol
  • Cemegol
  • Biolegol

Mae achosion cyffredin halogiad bwyd yn cynnwys:


Ffisegol

  • Llwch a baw
  • Baw plâu, ffwr neu gyrff marw
  • Darnau o wydr a llinyn
  • Tameidiau o offer neu beiriannau
  • Tameidiau o gragen neu asgwrn

Cemegol

  • Cemegau glanhau
  • Planhigion gwenwynig
  • Abwyd ar gyfer lladd plâu
  • Cemegau ar gyfer tyfu neu gynhyrchu bwyd

Biolegol

  • Bacteria
  • Firysau
  • Ffyngau (mowldiau a burum)
  • Parasitiaid

Fe all peryglon bwyd cyffredin achosi:


Ffisegol

  • Toriadau yn y geg o bethau miniog
  • Tagu neu dorri dannedd

Cemegol

  • Difrod tymor hir i'r corff
  • Llosgi a salwch

Biolegol

  • Gwenwyn bwyd
  • Afiechydon eraill

2. Halogiad Ffisegol

Ffyrdd o atal halogiad Ffisegol:

  1. Cadw'r ardal bwyd yn lân a thaclus.
  2. Gwisgo dillad amddiffynnol priodol a pheidio â gwisgo gemwaith a allai achosi halogiad.
  3. Hysbysu unrhyw ddifrod i offer neu eiddo, e.e fel waliau, nenfydau neu arwyneb gwaith.
  4. Hysbysu unrhyw arwydd o blâu yn y cylch bwyd.
  5. Symud holl wastraff bwyd a sbwriel o'r ardal trin bwyd yn aml.

3. Halogiad Cemegol

Ffyrdd o atal halogiad Cemegol:

  1. Cadw holl gemegau glanhau allan o'r ardal bwyd.
  2. Prynu bwyd gan gyflenwyr bwyd cyfrifol, sef bwyd sydd ddim yn cynnwys olion plaladdwyr (pesticides), gwrteithiau (fertilizer) neu wrthfiotigau (antibiotics) anifeiliaid.
  3. Gofalu golchi holl lanedyddion wrth olchi llestri.
  4. Cadw abwydydd plâu (pest bait) oddi wrth fwyd.

4. Perygl Biolegol

Dyma brif achos gwenwyn bwyd. Mae bacteria'n ficro-organebau ungell ac yn rhy fach i'w gweld. Mae bacteria i'w cael ymhob rhan o'r byd a gallant ddal yn fyw dan lawer o amgylchiadau. Rhaid cofio hefyd bod rhai bacteria'n 'gyfeillgar'. Mae'r bacteria cyfeillgar yn helpu i ni dyfu cnydau, a chânt eu defnyddio wrth wneud iogwrt a chaws ac i greu moddion.


O ble daw bacteria pathogenig?


Bwyd amrwd:

Mae cig, dofednod (poultry), pysgod a llysiau'n ffynhonnell fawr o halogiad.

Dŵr:

Fe all dŵr heb ei drin fel mewn llynnoedd, afonydd a chronfeydd dŵr gynnwys micro-organebau pathogenig. Dim ond dŵr yfed (dŵr a driniwyd ac sy'n ddiogel i'w yfed) sydd i'w ddefnyddio wrth ddelio â bwyd.

Pridd:

Mae llawer math o facteria'n byw yn y pridd. Felly, rhaid golchi unrhyw fwyd sydd â phridd arno'n drwyadl cyn ei baratoi. Enghraifft: moron, tatws neu eitemau salad.

Pobl:

Mae bacteria pathogenig i'w cael ar groen, clustiau, trwyn a gwallt dynol.

Llwch o'r awyr a gwastraff bwyd:

Mae llwch o'r awyr yn cynnwys miliynau o facteria pathogenig. Fe all gwastraff bwyd gael ei halogi gan blâu.

Plâu ac anifeiliaid anwes:

Mae pryfed, llygod, cŵn, cathod, a chwilod duon i gyd yn cludo micro-organebau niweidiol ar ac yn eu cyrff.

Sut mae bacteria pathogenig yn ymledu?


Dwylo budr.

Offer budr.

Arwynebau budr.

Arwynebau gwaith budr.

Anifeiliaid / plâu.

Defnyddio byrddau torri o'r lliw anghywir ar gyfer y gwaith.

Sut i leihau croes halogi

  1. Golchi'r dwylo
    - cyn trin, coginio a gweini bwyd;
    - ar ôl delio â gwastraff bwyd;
    - ar ôl ymweld â'r toiled;
    - ar ôl pob darn o waith.
  2. Dilyn arferion hylendid personol llym.
  3. Peidio â chyffwrdd gwallt, wyneb neu geg wrth drin bwyd.
  4. Golchi dwylo'n aml ac yn drwyadl yn dilyn y drefn gywir a defnyddio sinc 'gsolchi dwylo' yn unig.

Sut mae bacteria'n atgynhyrchu?

Yr enw ar atgynhyrchu bacteria yw 'ymhollti deuaidd' lle mae'r bacteriwm yn lluosi trwy hollti'n ddau. Dim ond 10 i 20 munud sydd ar y bacteriwm ei angen i luosi dan yr amgylchiadau iawn sy'n cynnwys: bwyd+ cynhesrwydd+ amser + lleithder = . Felly, mae modd cynhyrchu miliynau o facteria o fewn ychydig oriau.

Symptomau cyffredin gwenwyn bwyd

  • Poenau yn y bol
  • Cyfog
  • Dolur rhydd
  • Chwydu

Enghreifftiau o wenwyn bwyd a salwch trwy fwyd

Gwenwyn bwyd: sy'n dod o fwyta bwyd a halogwyd gan facteria pathogenig neu a halogwyd yn ffisegol neu'n gemegol.
Salwch trwy fwyd: sy'n dod o fwyta bwyd neu yfed dŵr sy'n cludo micro-organebau niweidiol fel firysau, parasitiaid neu rai bacteria pathogenig.

Gwenwyn bwyd

Ffynhonnell gyffredin

Cysylltiedig â bwyd

Symptomau

Amser cyn dechrau (ar gyfartaledd)

Salmonela Perfeddion pobl ac anifeiliaid, plâu a charthion Dofednod amrwd a heb eu coginio, wyau, llaeth a chig amrwd Poenau yn y bol
Dolur rhydd Chwydu a thwymyn
12-36 awr
Clostridiwm perfringens Carthion anifeiliaid a phobl, pridd, llwch, trychfilod a chig amrwd Cig a dofednod wedi'u coginio Poenau yn y bol a dolur rhydd 12-18 awr
Staffylococws aureus Corff dynol h.y. croen, trwyn, ceg a thoriadau a chasgliadau septig. Llaeth amrwd Cigoedd oer, llaeth amrwd a chynnyrch llaeth neu unrhyw beth a gyffyrddwyd gan ddwylo Poenau yn y bol a chrampiau, chwydu, tymheredd isel 1-6 awr
Basilws cereus Grawnfwydydd, pridd a llwch Grawnfwydydd yn enwedig reis wedi ei aildwymo Poenau yn y bol, dolur rhydd a chwydu 1-5 awr neu 8-16 awr

Salwch trwy fwyd

Campylobactor Anifeiliaid, carthion a dŵr heb ei drin Dofednod amrwd, cig a llaeth a dŵr heb ei drin Poenau yn y bol, dolur rhydd a chwydu 12-36 awr
Escherichia coli 0157 (E.coli) Perfeddion pobl ac anifeiliaid, carthion, dŵr a chig amrwd Cig eidion (yn enwedig mins) llaeth amrwd a dŵr heb ei drin Poenau yn y bol, twymyn, dolur rhydd, chwydu, niwed a methiant yr arennau 12-24 awr neu hwy
Listeria Pridd, dŵr, carthion, pobl Caws meddal, caws o laeth heb ei basteureiddio, llysiau salad a phate Symptomau fel y ffliw 1-70 diwrnod

5. Bwyd risg uchel

Caiff rhai bwydydd eu disgrifio fel bwydydd risg uchel ac maent yn fwy tebygol nag eraill o achosi gwenwyn bwyd.
Mae bwyd risg uchel yn cynnwys:

Bwyd sy'n llawn protein ac yn llaith:

  • Cig
  • Wyau
  • Reis wedi'i goginio
  • Cynnyrch llaeth
  • Sawsiau
  • Dofednod
  • Pysgod cregyn
  • Pysgod
  • Grefi
  • Bwyd môr

Bwyd parod i'w fwyta:

  • Cig wedi'i goginio a dofednod wedi'u coginio
  • Reis wedi'i goginio
  • Pysgod cregyn a bwyd môr wedi'i goginio
  • Caws meddal
  • Salad parod
  • Pate a phast cig neu bysgod

Wrth drin bwyd risg uchel mae angen:

  • Osgoi cyffwrdd y bwyd gyda dwylo a defnyddio gefel (tongs)
  • Cadw bwyd allan o'r parth perygl rhwng 5°C a 63°C
  • Gorchuddio bwyd wrth ei gadw i atal halogiad
  • Cadw bwyd amrwd a risg uchel ar wahân

Cwis

Gwybodaeth
Ychwanegol