Gwybodaeth gefndir
Gweithgareddau rhyngweithiol
Lawrlwytho
Cwis
Gwybodaeth ychwanegol

Hylendid personol

Gwybodaeth
gefndir

1. Golchi'r Dwylo

Hylendid dwylo hanfodol

Mae'n hanfodol eich bod yn sicrhau bod eich dwylo yn hollol lân bob amser wrth baratoi, coginio a gweini bwyd.

Pa bryd i olchi dwylo?

Dechrau

  • Cyn dechrau gweithio yn y gegin neu dŷ bwyta.
  • Wrth gyffwrdd unrhyw fwyd.

Wrth drin bwyd

  • Mor aml ag sy'n angenrheidiol i gadw dwylo'n lân.
  • Rhwng trin bwyd amrwd ac wedi'i goginio, er enghraifft cig amrwd a gwneud brechdanau.

Ar ôl

  • Ymweld â'r toiled.
  • Trin bwyd amrwd fel: cig, wyau yn eu cregyn.
  • Delio a sbwriel neu fwyta ac yfed.
  • Cyffwrdd eich gwallt neu wyneb.

Sut i olchi eich dwylo?

  1. Defnyddio basn ymolchi sy'n cael ei darparu bob amser.
  2. Defnyddio dŵr cyffyrddus o boeth a sebon hylif.
  3. Gweithio'r sebon i'r dwylo am tua 15 i 20 eiliad gan sicrhau ymolchi rhwng y bysedd ac o gwmpas yr arddwrn. Defnyddio brwsh ewinedd glân i lanhau'r ewinedd ar ôl trin bwyd amrwd neu fynd i'r toiled.
  4. Rinsio'r dwylo a'u sychu gyda thyweli papur.

Pam fod angen i ni olchi dwylo?

I osgoi halogiad, mae angen i chi olchi eich dwylo i ddileu pathogenau (fel bacteria a firysau) neu sylweddau niweidiol eraill fel baw neu gemegau wrth lanhau.

Atal damweiniau

Tynnwch holl fodrwyau wrth baratoi, coginio a gweini bwyd i osgoi halogi biolegol a ffisegol.
Peidiwch â gwisgo lliw ewinedd nac ewinedd ffug oherwydd y gall darnau ohono dorri i'r bwyd neu guddio baw sy'n rhaid ei ddileu cyn trin bwyd.

Bacteria gwenwyn bwyd

Pobl yw prif ffynhonnell bacteria gwenwyn bwyd fel Staphylococcus aureus sydd i'w gael mewn toriadau, plorod a chyflyrau croen.

2. Lliw Ewinedd

Peidiwch â gwisgo unrhyw liw ewinedd nag ewinedd ffug wrth baratoi a choginio bwyd. Gallai darnau ohonynt fynd i'r bwyd ac achosi halogi ffisegol, neu gall guddio baw a allai achosi halogi biolegol.

3. Toriadau a Phlorod

Bacteria gwenwyn bwyd yw Staphylococcus aureus.

Pobl yw prif ffynhonnell Staphylococcus aureus (ffynhonnell gyffredin = corff dynol ac mae symptomau'n cynnwys:

poen yn y bol, chwydu a thymheredd isel. Mae'n facteriwm gwenwyn bwyd ac i'w gael ar doriadau, plorod a chyflyrau croen.

Felly, i atal rhag lledaenu bacteria a diogelu'r bwyd, clwyf a phloryn mae angen i chi orchuddio'r fan gyda phlaster gwrth-ddŵr glas.

Pam fod angen gorchuddio toriadau a phlorod

I atal rhag lledaenu bacteria i fwyd a all achosi gwenwyn bwyd.

Beth i'w ddefnyddio i orchuddio toriadau a phlorod

Lliw glas yw plaster gwrth-ddŵr fel arfer ac yn aml gall fod a stribed metel tenau ynddo fel bod modd ei ganfod gan ddatgelydd metelau (metal detector) ar linell gynhyrchu.

Pam y lliw glas?

Fel bod modd eu gweld yn rhwydd os byddant yn dod i ffwrdd a rhoi cyfle i'r goruchwyliwr weithredu'n briodol. Os yw'r toriad ar y llaw, efallai y bydd angen i chi wisgo menig hefyd.

Hysbysu

Os oes gennych doriad septig neu bloryn diferol, mae angen i chi hysbysu hyn i'r rheolwr neu oruchwyliwr cyn dechrau gweithio.

4. Hysbysu salwch

Os ydych wedi bod yn sâl gyda gwenwyn bwyd neu os oes gennych symptomau tebyg, rhaid i chi hysbysu'r rheolwr.

Hysbysu salwch a pham

  • Mae'n ofyniad cyfreithiol i hysbysu rhai afiechydon i'r awdurdod iechyd lleol. (Bydd eich rheolwr yn gwneud hyn).
  • Efallai y bydd angen i chi weld meddyg a chael sylw meddygol.
  • Gan ddibynnu ar yr afiechyd efallai y bydd angen i chi gael cymeradwyaeth y meddyg cyn i chi ddychwelyd i weithio.
  • Gallech halogi bwyd gyda bacteria gwenwyn bwyd.

Symptomau gwenwyn bwyd

Rhaid i chi ddweud wrth eich goruchwyliwr os oes gennych y symptomau canlynol:
  1. Chwydu.
  2. Cyfog.
  3. Llygad, clust neu drwyn yn rhedeg.
  4. Toriad septig, plorod neu gyflwr croen sy'n gadael clwyf agored.
  5. Dolur rhydd.

Symptomau ar ôl gwyliau tramor

Os ydych wedi bod yn sâl gyda dolur rhydd, chwydu neu gyfog yn dilyn gwyliau tramor rhaid i chi ddweud wrth eich goruchwyliwr.
Efallai y bydd angen i chi ymweld â meddyg a dweud eich bod yn berson sy'n trin bwyd. Efallai y cewch brawf meddygol ac ni ddylech ddychwelyd i weithio cyn i'ch meddyg neu gyflogwr ddweud y cewch chi.

5. Arferion Aflan

Mae nifer o arferion aflan (unclean habits) y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt wrth ddelio â bwyd oherwydd bod Pathogenau (organebau sy'n achosi afiechydon ac sy'n gallu achosi gwenwyn bwyd) yn gallu gwasgaru'n hawdd iawn.

Felly, peidiwch fyth â gwneud y canlynol:

  1. Llyfu bysedd neu ddefnyddio bysedd i brofi bwyd.
  2. Pesychu neu disian dros fwyd.
  3. Bwyta neu ysmygu mewn cylch paratoi bwyd.
  4. Trin bwyd cyn golchi eich dwylo.
  5. Sychu eich dwylo ar eich dillad eich hun neu gadach glanhau.
  6. Poeri ar unrhyw gyfrif.

6. Dillad Diogelwch

Dillad priodol ar gyfer y gwaith.

Rhaid i'r dillad gwarchod bwyd rhag halogiad a chi rhag niwed.

Math o ddillad

  • Siacedi, trywsusau, ffedogau neu oferôls.
  • Hetiau, sgarffiau gwddf, rhwydi gwallt a rhwydi barf neu rwydi mwstash.
  • Esgidiau neu esgidiau mawr gwrthlithro.
  • Menig.

Rhaid i ddillad gwarchod y bwyd rhag halogiad a chi rhag niwed. Rhaid iddynt fod:

  1. Yn lân ac mewn cyflwr da.
  2. Yn olau (gwyn o ddewis).
  3. Yn addas i'r gwaith a wnewch.
  4. Heb grychion.
  5. Yn hawdd eu glanhau.

Dillad awyr agored

  • Rhaid cadw holl ddillad awyr agored allan o gylch paratoi bwyd i osgoi halogiad.
  • Dylid cadw dillad awyr agored mewn cwpwrdd neu ardal ar wahân i'r gegin.

Menig

  • Os bydd angen i chi wisgo menig, sicrhewch eich bod yn golchi eich dwylo cyn ac ar ôl eu gwisgo.
  • Newidiwch y menig rhwng paratoi bwyd amrwd ac wedi'i goginio. Er enghraifft: wrth dorri cig amrwd ac yna ham parod.

Gemwaith

  • Rhaid tynnu holl emwaith cyn mynd i'r gegin er mwyn osgoi halogi biolegol a ffisegol.
  • Fe all rhai sefydliadau ganiatáu i bobl sy'n trin bwyd wisgo modrwy briodas, ond rhaid gofalu ymolchi dan y fodrwy wrth olchi'r dwylo.

Hetiau

  • Mae angen i chi wisgo het i orchuddio'r gwallt a pheidiwch fyth â brwsio neu gribo gwallt mewn cylch paratoi bwyd.
  • Dylech wisgo het cyn gwisgo'r dillad amddiffynnol eraill i osgoi halogiad.
  • Dylid clymu neu dorri gwallt hir.

Cwis

Gwybodaeth
Ychwanegol