Safonau Diogelwch Bwyd yn y Busnes
Nodwch yr effaith gadarnhaol ar y busnes os bydd pob person sy'n trin bwyd yn dilyn y Safonau Diogelwch Bwyd:
- Bydd y bwyd yn ddiogel
- Costau yn lleihau
- Enw da'r busnes
Dangos/cuddio awgrymiadau?
Os bydd pawb sy'n trin bwyd yn dilyn y safonau diogelwch bwyd yn y busnes:
- Bydd holl fwyd sy'n cael ei baratoi, ei goginio a'i weini'n ddiogel i'w fwyta.
- Bydd costau bwyd yn lleihau a bydd elw'n cynyddu.
- Bydd y busnes yn cydymffurfio รข holl Reoliadau Diogelwch Bwyd.
- Bydd yn gwella enw da'r busnes ac yn annog canran uwch o gwsmeriaid i ddychwelyd.
- Bydd yn lleihau gwastraff.
- Bydd yn gwella ysbryd (morale) y staff ac yn gwella sicrwydd eu swyddi.