Gwybodaeth gefndir
Gweithgareddau rhyngweithiol
lawrlwytho
Cwis
Gwybodaeth Ychwanegol

Safonau a rheoliadau
hylendid bwyd

Gwybodaeth
gefndir

1. Safonau Diogelwch Bwyd

Pwysigrwydd safonau diogelwch bwyd:

  • Os ydych chi'n person sy'n trin bwyd mae'r cyfrifoldeb arnoch chi i sicrhau nad yw unrhyw fwyd a driniwch – trwy baratoi, coginio neu weini – yn achosi unrhyw salwch neu niwed.
  • Mae'r cyfrifoldeb arnoch chi i gadw bwyd yn ddiogel.

Os na fyddwch yn dilyn safonau diogelwch bwyd:

  1. Fe all cwsmeriaid fynd yn sâl neu gael niwed a byddant yn cwyno.


  2. Bydd y busnes yn cael enw drwg am ansawdd bwyd ac fe allwch golli cwsmeriaid gan beri bod y busnes yn cau.


  3. Efallai y byddwch yn gorfod taflu neu waredu'r bwyd, fydd yn effeithio ar elw'r busnes.
  4. Efallai y bydd hawliadau cyfreithiol yn erbyn y busnes.

Os bydd pawb sy'n trin bwyd yn dilyn y safonau diogelwch bwyd yn y busnes

  • Bydd holl fwyd sy'n cael ei baratoi, ei goginio a'i weini'n ddiogel i'w fwyta.
  • Bydd costau bwyd yn lleihau a bydd elw'n cynyddu.
  • Bydd y busnes yn cydymffurfio â holl Reoliadau Diogelwch Bwyd.
  • Bydd yn gwella enw da'r busnes ac yn annog canran uwch o gwsmeriaid i ddychwelyd.
  • Bydd yn lleihau gwastraff.
  • Bydd yn gwella ysbryd y staff ac yn gwella sicrwydd eu swyddi.

2. Y Gyfraith

Diogelwch Bwyd a'r Gyfraith

  • Yn 1984 roedd tua 21,000 o achosion o wenwyn bwyd yng Nghymru a Lloegr.
  • 94,000 yn 1998.
  • 70,000 yn 2004.

Ffynhonnell: (NOIDs)


Rhaid nodi bod y ffigurau uchod yn llawer is na'r gwir ffigwr oherwydd nad yw llawer o achosion yn cael eu hysbysu bob blwyddyn.

Trinwyr bwyd a'r Gyfraith

  • Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar bawb sy'n trin bwyd i gadw bwyd yn ddiogel.
  • Mae cyfrifoldeb cyfreithiol hefyd ar bobl eraill y gallai eu gwaith effeithio ar ddiogelwch bwyd, fel glanhawyr, i warchod bwyd rhag unrhyw halogiad.

Cyflogwyr a'r Gyfraith
Rhaid:

  1. Cofrestru'r eiddo bwyd gyda'r awdurdod gorfodi lleol.
  2. Sicrhau fod offer eiddo bwyd yn atal halogiad neu unrhyw beth a allai arwain at salwch neu anaf.
  3. Bod â chyfleusterau ymolchi digonol a threfniadau ar gyfer hylendid personol.
  4. Bod â chynllun ar gyfer dadansoddi peryglon bwyd a lleihau risg unrhyw beryglon i ddiogelwch bwyd.
  5. Sicrhau bod holl staff trin bwyd yn cael hyfforddiant a goruchwyliaeth sy'n briodol. Rhaid cofnodi hyfforddiant e.e. 'Hyfforddiant Diogelwch Bwyd 1.4.2017'.

3. Safonau diogelwch bwyd allweddol

  1. Gwarchod bwyd rhag unrhyw beth a allai arwain at salwch neu niwed.


  2. Cadw'r gweithle a chi eich hun yn lân bob amser.


  3. Dilyn holl reolau ar gyfer diogelwch bwyd yn y gweithle.


  4. Golchi eich dwylo cyn, yn ystod ac ar ôl trin bwyd.


  5. Hysbysu eich rheolwr o unrhyw beth a feddyliwch allai effeithio ar ddiogelwch bwyd.


  6. Mynychu hyfforddiant diogelwch bwyd sy'n berthnasol i'ch cyfrifoldeb fel person trin bwyd.


4. Rheoliadau

Mae chwe phrif reoliad y mae gofyn i fusnes Trin Bwyd eu dilyn yn y DU.
  • Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru), 2006.
  • Rheoliad Rhif (EC) 852/2004 ar hylendid bwyd.
  • Rheoliadau Labelu Bwyd (1996)
  • Marcio Sypiau (1996)
  • Rheoliadau Bwydydd a Rewyd yn Gyflym (1990) a ddiwygiwyd yn (1994)
  • Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru), 2006.

  1. Bod yr ardal fwyd yn lân ac yn cael ei chynnal mewn cyflwr da.
  2. Wedi'i dylunio a'i hadeiladu i ganiatáu arferion hylendid da.
  3. Bod â chyflenwad digonol o ddŵr yfed.
  4. Bod â rheolaeth ar blâu.
  5. Bod â goleuo digonol.
  6. Bod ag awyru digonol.
  7. Bod â thoiledau glân nad oes cysylltiad uniongyrchol rhyngddynt â'r cylch paratoi bwyd.
  8. Bod â chyfleusterau golchi dwylo digonol yn yr ardal fwyd.
  9. Bod â draenio digonol.
  10. Bod â rheolaeth dros dymheredd bwyd.



  • Fe all rhywun sy'n euog o drosedd o dan y rheoliadau gael dirwy hyd at uchafswm o £5,000.
  • Mae gan swyddogion awdurdodedig hawl mynediad ar unrhyw adeg resymol.

Rheoliad Rhif (EC) 852/2004 ar hylendid bwyd.
Prif ofynion y rheoliad hwn yw:

  1. Rhaid i weithredwyr bwyd fod â threfn o'r enw HACCP – dadansoddiad peryglon a mannau rheoli allweddol – trwy nodi man rheoli allweddol (CCP) a gweld bod rheolaeth yn bodoli i leihau'r perygl.
  2. Gofynion Hylendid Cyffredinol: Rhaid cadw'r canlynol yn lân a'u cynnal yn dda: Toiledau, sinciau golchi dwylo, awyru, goleuo, draenio, cyfleusterau newid ar gyfer staff a defnyddio glanhawyr a diheintyddion.
  3. Rhaid symud gwastraff bwyd o'r ardal trin bwyd mor fuan ag y bo modd.


  4. Rhaid i bawb sy'n trin bwyd gynnal hylendid personol i safon uchel.


  5. Lapio bwyd: rhaid i ddeunydd sy'n cael ei ddefnyddio i lapio a phacio bwyd beidio â bod yn ffynhonnell halogiad.
  6. Trin â gwres: rhaid i broses trin â gwres fod yn ddigonol i atal rhag halogi unrhyw gynnyrch bwyd.
  7. Hyfforddiant: rhaid i holl drinwyr bwyd gael hyfforddiant priodol i'w swydd.

Rheoliadau Labelu Bwyd (1996)

Mae'r rheoliadau'n gofyn bod unrhyw fwyd paced yn dangos:
  1. Enw'r bwyd.
  2. Rhestr o'r elfennau yn nhrefn pwysau.
  3. Arwydd o ddyddiad 'ar ei orau cyn' (Best Before) neu 'i'w ddefnyddio erbyn' (Use by).
  4. Unrhyw amgylchiadau cadw arbennig sydd eu hangen.
  5. Enw a chyfeiriad y gwneuthurwr.
  6. Tarddle (Origin).
  7. Cyfarwyddiadau defnyddio.



Marcio Sypiau (1996)

Mae'r rheoliadau'n gofyn bod bwyd paced yn dangos rhif swp (batch number) i gynorthwyo os digwydd gorfod galw cynnyrch yn ôl.

Rheoliadau Bwydydd a Rewyd yn Gyflym (1990 a ddiwygiwyd yn 1994)

Mae'r rheoliadau hyn yn effeithio ar fusnesau sy'n cynhyrchu, cadw, cludo a gwerthu bwydydd a rewyd yn gyflym. Mae hyn yn cynnwys cofnodi tymheredd y bwyd sy'n gorfod cael ei gadw ar neu islaw -18°C. Rhaid cofnodi'r tymheredd a chadw'r cofnodion am o leiaf 12 mis.

Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974

O dan y Ddeddf hon rhaid i gyflogwyr sicrhau cynnal iechyd, diogelwch a lles gweithwyr. Er enghraifft, dylai tymheredd y cylch paratoi bwyd fod yn rhesymol fel 16°C.


Cwis

Gwybodaeth
Ychwanegol