1.2.4 Yr amrywiol amgylcheddau rhewlifol a’u dosbarthiad

Gweithgaredd 1

Cwestiwn Mawr

Beth yw’r prif wahaniaethau rhwng dosbarthiad Iâ cyfnod y Pleistocen a’r presennol?

Cwestiynau

1
2
3
4
5

Esboniwch y dosbarthiad presennol o iâ a welir yn Adnodd A.

Cymharwch a chyferbynnwch y dosbarthiad iâ presennol (Adnodd A) gyda’r dosbarthiad adeg Oes yr Iâ (Adnodd B).

Amcangyfrifwch o’r map pa ganran yn llai o’r Byd sydd wedi ei orchuddio ag iâ yn awr o’i gymharu ag Oes yr Iâ.

Mae Adnodd C yn dangos yr arwynebedd o’r tir a orchuddir gan iâ mewn gwahanol rannau o’r Byd. Cyfrifwch y canlynol:

  • Cyfanswm yr arwynebedd sydd dan iâ.
  • Y canran o iâ’r Byd sydd yn Antarctica.
  • Y canran o iâ’r Byd sydd ar yr Ynys Werdd.
  • Y canran o iâ sydd yng ngweddill y Byd.

Mae tua 10% o’r Byd wedi ei orchuddio gan iâ. Yn ystod Oes yr Iâ tybir fod tua 32% o’r Byd wedi ei orchuddio gan Iâ. Cyfrifwch sawl cilomedr sgwar oedd wedi ei orchuddio gan iâ yn ystod Oes yr Iâ.