Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Twyni Tywod Ainsdale.
Un o safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf Lloegr. Sefydlwyd ym 1965. 508 hectar, gyda dros 450 gwahanol rywogaeth o blanhigion.
Yn ystod y ddeunawfed ganrif roedd yn gwningar (rabbit warren) ac yn ddiweddarach ceisiwyd gwella’r pridd tywodlyd gwael er mwyn ffermio. Dechrau’r ugeinfed ganrif plannwyd coed pinwydd ar rannau mewnol y twyni i geisio lleihau erydiad – mae’r planhigfeydd dal yno.
Dirywiodd nifer y cwningod yn fawr ers y 1950au o ganlyniad i fycsomatosis, felly dechreuodd coed, e.e. bedw, corhelyg (creeping willow) a drain ymsefydlu ar y twyni. Yn ogystal roedd hadau’r pinwydd yn gwasgaru i’r twyni. Er mwyn cadw cynefinoedd ar gyfer planhigion ac anifeiliaid prin y twyni.
Mae rhai coed a phrysg/llwyni’n cael eu torri. Cliriwyd peth o’r coed pinwydd i adfer y cynefinoedd twyni gwreiddiol ac mae defaid a gwartheg yn pori’r twyni yn y Gaeaf.
Plannir moresg er mwyn sefydlogi’r twyni (arfer sydd wedi ei gynnal ers dros 300 mlynedd).
Mae’r borfa’n cael ei dorri ar yr hen dwyni i greu llwybrau cerdded ac fe fydd tyweirch yn cael eu codi i gynnal cynefin llyffant y twyni (natterjack toad).
Bu datblygiad trefol ar ochr dwyreiniol y twyni.