Dim ond 48 rhywogaeth o famaliaid tir sydd i’w gweld yn nhwndra’r Arctig ond bydd llawer aelod o’r rhywogaethau yma. Ceir ysgyfarnogod, llygod, cwningod, lemingiaid. Hefyd ceir gyr o geirw (caribou) ac ych mwsg. Ymhlith yr ysglyfaethwyr mae bleiddiaid, llwynogod Arctig, ac eirth polar.
Yn yr Haf mae yna lawer o bryfed a mosgitos. Mae gan y mosgitos gemegau yn eu gwaed sy’n eu rhwystro rhag rhewi.
Bydd llawer o adar mudol yn hedfan i’r twndra yn yr Haf, e.e. hwyaid. Bydd eraill, e.e. grugieir a thylluanod yn aros yn barhaol yn y twndra.
Addasiadau
- Ffwr trwchus i gadw’n gynnes.
- Gaeafgwsg, e.e. yr arth frown.
- Ffwr gwyn , e.e. arth polar, ysgyfarnogod eira, llwynogod Arctig.
- Plu gwyn, e.e. grugieir a thylluanod yr eira. Mae gan y grugieir blu trwchus ar eu traed.
- Cylch bridio sydyn - torllwythi mawr, e.e. lemingiaid
- Mudo.
- Cloddio dan yr eira i gadw’n gynnes a chyrraedd bwyd.
- Carnau a chyrn gan geirw i dorri trwy’r eira a’r rhew.
Ceirw. Coesau byr cryf. Cot o ffwr trwchus. Cyrn a charnau miniog i dorri trwy’r eira a rhew. Carnau llydan. Nofwyr da. Medrant leihau eu cyfradd fetabolig os yw amgylchiadau’n anodd. Mudo hyd at 750 cilomedr y flwyddyn wrth bori. Bwyta amrywiaeth mawr o blanhigion twndra. Bydd y lloi’n tyfu’n sydyn iawn.
Llwynog Arctig. Storio bwyd, e.e. wyau ar gyfer y Gaeaf. Ambell dro’n dilyn ysglyfaethwyr mwy, e.e. eirth a dwyn eu sbarion. Cynffon blewog i’w orchuddio pan mae’n oer. Cot o ffwr hir tywyll yn yr Haf, gwyn yn y Gaeaf. Hollysydd - bwyta wyau, pysgod, mamaliaid ac adar yn ogystal ag aeron, gwymon, pryfed.