4.3.13 Sialensiau diffeithdiro

Gweithgaredd 1

Cwestiwn Mawr

Beth yw achosion diffeithdiro yn Affrica Is-Sahara?

Cwestiynau

1
2
3
4
5

Disgrifiwch y tueddiadau a welir ar y graff yn Adnodd A sy’n dangos yr amrywiadau yn y glawiad blynyddol yn y Sahel dros gyfnod o 105 o flynyddoedd.

Dadansoddwch y patrymau anweddiad dŵr ym Masn Afon yr Afon Niger, mewn blwyddyn gyfartalog, trwy ddefnyddio’r animeiddiad yn Adnodd B.

Archwiliwch achosion ffisegol diffeithdiro yn Affrica Is-Sahara.

Esboniwch pam mae diffeithdiro yn digwydd yn Affrica Is-Sahara.

Gwerthuswch y datganiad ‘Diffeithdiro yw’r ‘risg’ fwyaf mae Affrica Is-Sahara yn ei wynebu’.