Llinell AmserEnglish
1931
Gadawodd Dylan Ysgol Ramadeg Abertawe i fynd yn ohebydd ar y papur newydd South Wales Daily Post.1932
Ymunodd Dylan â chwmni theatr 'Swansea Little Theatr Company'. Daeth yn ffrindiau gyda chriw o ddynion talentog o Abertawe a oedd yn cwrdd yng nghaffi'r Kardomah.1934
23 Chwefror: Aeth Dylan i Lundain am yr ail dro gan aros gyda Pamela Hansford JohnsonTachwedd: Symudodd Dylan i Lundain gyda ffrindiau o Abertawe, y ddau arlunydd Alfred Janes a Mervyn Levy.
18 Rhagfyr: Cyhoeddwyd 18 Poems, y llyfr cyntaf o gerddi Dylan.
1936
Ebrill: Cwrddodd Dylan â Caitlin Macnamara. Roedd hi'n gariad i Augustus John (yr arlunydd) ar y pryd.Gorffennaf: Cyfarfu Dylan a Caitlin eto yn Nhalacharn. Bu Dylan ac Augustus yn ymladd dros Caitlin.
10 Medi Cyhoeddodd Dylan Thomas ei ail gasgliad o gerddi - Twenty Five Poems.
1937
21 Ebrill: Gwnaeth Dylan ei ddarllediad radio cyntaf Dylan 'Life and the Modern Poet'.11 Gorffennaf: Priodwyd Dylan a Caitlin.
1938
Mai: Symudodd Dylan a Caitlin i fwthyn Eros yn Nhalacharn.Awst: Symudon nhw o Eros i Sea View, Talacharn.
Tachwedd: Arhoson nhw gyda mam Caitlin yn Hampshire gan fod Caitlin yn disgwyl eu plentyn cyntaf.
1939
30 Ionawr: Cafodd eu plentyn cyntaf - Llewelyn Edouard Thomas - ei eni.24 Awst: Cyhoeddwyd The Map of Love.
20 Rhagfyr: Cyhoeddwyd The World I Breathe - casgliad o gerddi a storïau byrion, yn UDA.
Roedden nhw'n dal i aros gyda theulu Caitlin yn Hampshire.
1940
Mawrth / Ebrill: Symudodd Dylan a'i deulu yn ôl i Sea View, Talacharn.4 Ebrill: Cyhoeddwyd Portrait of the Artist as a Young Dog.
Mai: Methodd Dylan archwiliad meddygol y Fyddin.
Roedd ganddo ddyledion yn Nhalacharn a symudodd i fyw at ei rieni yn Llandeilo Ferwallt.
Mehefin/Awst: Arhoson nhw gyda John Davenport a'i wraig, yn Swydd Gaerloyw.
Gorffennaf: Gadawodd Dylan a Caitlin Dalacharn a mynd i Lundain.
Medi: Dechreuodd Dylan weithio i Strand Films fel sgriptiwr.
Rhagfyr: Dychwelon nhw i aros gyda rhieni Dylan yn Llandeilo Ferwallt tan fis Ebrill.
1941
19 - 21 Chwefror: Bu'r Luftwaffe yn bomio Abertawe'n barhaus.Mai/Gorffennaf: Arhosodd Dylan a Caitlin yn Castle House yn Nhalacharn gyda Richard a Frances Hughes.
Awst: Symudodd Dylan a Caitlin yn ôl i Lundain, gan adael Llewelyn eu mab gyda theulu Caitlin.
1942
Gorffennaf: Cymerodd Dylan and Caitlin stiwdio un ystafell wely yn Llundain fu'n gartref iddyn nhw am sawl blwyddyn.1943
Dechreuodd gwaith parhaus Dylan fel darlledwr.Chwefror: Cyhoeddwyd New Poems yn UDA.
3 Mawrth: Cafodd Aeronwy Bryn Thomas, ail blentyn Dylan a Caitlin, ei geni.
1944
Ebrill/Mehefin: Oherwydd y rhyfel - bu Dylan a Caitlin yn byw am dipyn yng Ngorllewin Sussex ac yna yn Swydd Buckingham.Gorffennaf/Awst: Arhoson nhw gyda rhieni Dylan, oedd wedi symud erbyn hyn i Blaen Cwm, Llangain, Sir Gaerfyrddin.
Medi: Symudodd Dylan a'r teulu i Majoda, Cei Newydd, lle dechreuodd Dylan weithio ar Under Milk Wood.
1945
Awst/Medi: Arhoson nhw ym Mlaencwm gyda rhieni Dylan.Rhagfyr/Mawrth 1947: Treuliodd Dylan a Caitlin y Nadolig gyda AJP Taylor yr hanesydd a Margaret ei wraig yn Rhydychen.
Rhwng 1945 a 1949 bu Dylan naill ai'n ysgrifennu neu'n cymryd rhan mewn dros gant o raglenni radio gyda'r BBC.
1946
Cyhoeddwyd Deaths and Entrances.Awst: Treuliodd Dylan a Caitlin bedwar diwrnod yng Ngweriniaeth Iwerddon, gyda'u ffrindiau Bill a Helen McAlpine.
8 Tachwedd: Cyhoeddwyd Selected Writings yn UDA.
1947
26 Mawrth: Rhoddodd y Gymdeithas Awduron Ysgoloriaeth i Dylan gan argymell y dylai ymweld â'r Eidal.Ebrill/Awst: Aeth Dylan a'i deulu i'r Eidal, lle ysgrifennodd Dylan 'In Country Sleep'.
15 Mehefin: Darlledodd y BBC 'Return Journey'.
Mehefin: Prynodd Margaret Taylor y Manor House yn Rhydychen, i'r teulu Thomas.
1948
Mawrth/Ebrill: Ymwelodd Dylan â Thalacharn, gan obeithio dod o hyd i le i'r teulu fyw.Ebrill: Daeth rhieni Dylan i aros gyda nhw yn South Leigh.
Haf: Dechreuodd Dylan weithio ar dair sgript ffilm i Gainsborough Films.
Hydref: Ymwelodd Margaret Taylor â Thalacharn a phrynu'r 'Boat House' i Dylan a'i deulu.
1949
4 Mawrth: Ymwelodd Dylan â Phrag.Mai: Symudodd Dylan a'r teulu i'r Boat House yn Nhalacharn.
24 Gorffennaf: Ganwyd Colm Garan Hart Thomas.
1950
20 Chwefror: Hedfanodd Dylan i Efrog Newydd ar ei daith gyntaf yn UDA.23 Chwefror: Darllenodd Dylan yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn UDA yn Efrog Newydd.
1 Mehefin: Dychwelodd Dylan i Brydain.
Medi: Darganfyddodd Caitlin fod cariad o America gan Dylan.
1951
Ionawr/Chwefror: Ymwelodd Dylan â Phersia i ysgrifennu sgript ffilmiau.Ysgrifennodd Caitlin ato, gan awgrymu bod y briodas ar ben.
Chwefror: Cymododd Dylan a Caitlin.
Gorffennaf: Arhosodd John Malcolm Brinnin, asiant Dylan yn America, a'r ffotograffydd Rollie McKenna gyda Dylan a Caitlin yn Nhalacharn.
Haf/Hydref: Ysgrifennodd Dylan 'Lament”, 'Poem on His Birthday', 'Do not go gentle into that good night', 'Prologue' a hanner Under Milk Wood.
Prynodd Margaret Taylor gartref yn Llundain i Dylan a'i deulu.
1952
20 Ionawr: Gadawodd Dylan a Caitlin am UDA.10 Tachwedd: Cyhoeddwyd Collected Poems 1934-1952.
16 Rhagfyr: Bu farw DJ Thomas, tad Dylan.
1953
16 Ebrill: Bu farw Nancy, chwaer Dylan, o ganser.21 Ebrill: Gadawodd Dylan am Efrog Newydd ar ei drydedd daith yn UDA.
3 Mehefin: Aeth Dylan yn ôl i Lundain.
19 Hydref: Gadawodd Dylan am Efrog Newydd i ddechrau ei bedwaredd daith, yn UDA.
29 Hydref: Gwnaeth Dylan ei ymddangosiad cyhoeddus olaf.
5 Tachwedd: Cwympodd Dylan i'r llawr yng Ngwesty Chelsea, Efrog Newydd.
9 Tachwedd: Bu farw Dylan yn Ysbyty St Vincent's.
25 Tachwedd: Angladd Dylan yn Nhalacharn.