Mae cloffni'n achosi anesmwythder i anifeiliaid fferm a hefyd yn arwain at golli cynnyrch.
Bydd y sesiwn hon yn delio ag anatomi troed anifail cnoi cil ac yn edrych ar brif achosion cloffni mewn gwartheg a defaid..
Ar ddiwedd y sesiwn hon byddwch yn gallu:
- Labelu carn anifail cnoi cil
- Datgan prif achosion cloffni mewn gwartheg
- Datgan prif achosion cloffni mewn defaid
- Egluro'n gryno sut i atal a thrin y cyflyrau mwyaf cyffredin