Uned 12: Mastitis

Ystyr y term mastitis yw llid ar y chwarren laeth.


Mae'n derm cyffredinol sy'n cwmpasu'r mwyafrif o glefydau a chyflyrau'r pwrs.


Mae'r sesiwn hon yn ymwneud â phrif achosion mastitis, sut i'w atal a'i drin.


Ar ddiwedd y sesiwn hon byddwch yn gallu:

  • Enwi prif achosion mastitis mewn gwartheg
  • Enwi prif achosion mastitis mewn defaid
  • Nodi rôl y ffermwr mewn atal mastitis
  • Gwerthuso'r dulliau trin cyffredin