Hyd cyfnod cario mewn gwartheg yw 275 diwrnod ac 147 diwrnod mewn defaid.
Mae ychydig o ddyddiau'r naill ochr neu'r llall i hyn yn dderbyniol.
Os yw'r ffoetws yn marw'n gynnar y tu mewn i'r fam, yna mae'n debygol y bydd y ffoetws bychan yn cael ei sugno'n ôl i leinin y groth gan adael dim o'i ôl. Fodd bynnag, os yw'r ffoetws yn cael ei yrru allan o'r groth cyn y cyfnod llawn, yna gelwir hyn yn erthyliad.
Bydd y sesiwn hon yn ymwneud ag achosion erthyliad mewn gwartheg a defaid.
Ar ddiwedd y sesiwn hon byddwch yn gallu:
- Enwi'r prif achosion dros erthylu mewn gwartheg
- Enwi'r prif achosion dros erthylu mewn defaid
- Egluro canlyniadau erthyliad mewn gyr neu ddiadell