Ffrwythlondeb yw gallu gwryw a benyw i atgenhedlu.
Mae system atgynhyrchiol y gwryw a'r fenyw dan ddylanwad amrywiaeth o gonadotropinau sy'n gweithredu mewn dilyniant.
Mae'r sesiwn hon yn delio â phrif broblemau ffrwythlondeb yn y fenyw, ac yn canolbwyntio ar y rhesymau iechyd sy'n achosi cyfraddau beichiogi isel. Ar gyfer y sesiwn hon, byddai'n fuddiol adolygu'r llwybrau atgynhyrchiol yn y fenyw a'r gwryw yn y fuwch a'r ddafad.
Ar ddiwedd y sesiwn hon byddwch yn gallu:
- Rhestru camau'r cyfnod lloea 365 diwrnod
- Enwi prif achosion cyfraddau beichiogiad isel mewn gwartheg godro, gwartheg sugno a defaid
- Egluro nodweddion prif broblemau iechyd sy'n achosi cyfraddau beichiogi isel