Mae'r sesiwn hon yn delio â phigiadu anifeiliaid fferm.
Bydd yn cwmpasu'r math o bigiad, dulliau gweinyddu, lleoliadau pigiadu ac offer.
Ar ddiwedd y sesiwn hon byddwch yn gallu:
- Egluro pam bod angen pigiadu anifeiliaid a rhoi enghreifftiau o feddyginiaethau
- Disgrifio prosesau pigiadu'r feddyginiaeth yn isgroenol a mewngyhyrol
- Egluro sut mae categoreiddio nodwyddau
- Egluro ble mae'r lleoliadau pigiadu cywir ar gyfer dosbarthiadau gwahanol o anifeiliaid fferm